Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion uwchradd a staff y Fro yn torchi llewys i helpu achub bywydau

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) wedi diolch i ddisgyblion a staff ysgolion gyfun Stanwell a’r Bont-faen am eu cyfraniadau mewn sesiynau rhoi gwaed.

 

  • Dydd Llun, 02 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



 

Welsh blood service banner size

 

Rhyngddynt gwelsant dros 100 o gyfraniadau.  

 

Rhoddodd Mrs Debra Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Y Bont-faen ganmoliaeth i’r rhai hynny a gymerodd ran: 


“Rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr am eu hymrwymiad i achub bywydau.  Gall pob cyfraniad o waed achub hyd at dri bywyd felly gyda’i gilydd mae ein disgyblion o bosib eisoes wedi achub dros tri chant o fywydau yng Nghymru!


“Rwy’n hynod o falch o’r myfyrwyr a staff am ein helpu i gyrraedd y ffigyrau gwych hyn.”

Ar ôl rhoi gwaed am y tro cyntaf, dywedodd y fyfyrwraig yn y chweched dosbarth, Darcy:

“Nid yw rhoi gwaed yn unrhyw beth i’w ofni. Mae’n bwysig iawn i fyfyrwyr ymuno â’r rhaglen gan fod angen rhoddwyr newydd ar Wasanaeth Gwaed Cymru o hyd, felly byddwn yn bendant yn dweud ‘gwnewch e’.  Dwi mor falch i fi wneud!”

Stanwell students give blood montage

Yn dilyn y sesiynau, mae dros 90 myfyriwr hefyd wedi  cofrestru gyda Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru;  cronfa ddata o dros 35 miliwn o roddwyr unigryw o bob cwr o’r byd. 

 
Daeth Stanwell yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal ei sesiynau rhoi ei hun ar gyfer myfyrwyr a staff yn 2015. Y llynedd, ymunodd y Bont-Faen â nhw fel rhan o raglen ysgolion cyfun GGC. 


Ar sail y llwyddiant hynny, lansiodd GGC fenter i gynyddu nifer yr ysgolion sy’n cynnal eu sesiynau rhoi gwaed eu hunain.  Rhagwelir y bydd y cynllun yn fodd i sicrhau 300 o roddwyr ychwanegol sy’n gwneud hynny am y tro cyntaf, bob blwyddyn.  

 

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwasanaeth Gwaed Cymru: 

“Fe hoffem ni ddiolch i’r disgyblion ac aelodau staff a gyfrannodd yn anhunanol tuag at y 100,000 uned y mae eu hangen arnon ni yng Nghymru eleni. Maen nhw wedi dangos ymroddiad ardderchog ac ysbryd cymunedol gwych. 


Os nad ydych erioed wedi rhoi o’r blaen, mae nawr yn amser gwych i roi cynnig arni.”

Er mwyn dechrau ar eich taith achub bywydau heddiw, ewch i www.welsh-blood.org.uk/ neu ffoniwch 0800 252 266 i ddod o hyd i’ch clinig rhoi gwaed lleol.

 

Ynglyn â Gwasanaeth Gwaed Cymru

  • Gall unrhyw un rhwng 17 a 66, sy’n pwyso dros 50 kg (7st 12 pwys) ddod yn rhoddwr gwaed ond mae cyfyngiadau o ran taldra a phwysau i ferched o dan 20 mlwydd oed. 
  • Does dim cyfyngiadau oedran uwch i roddwyr sydd wedi rhoi yn y ddwy flynedd diwethaf. Mae cyflenwadau O negatif yn hanfodol. Adwaenir y rhain fel rhoddwyr cyffredin gan fod modd defnyddio’r gwaed i drin unrhyw glaf mewn argyfwng.
  • O Positif yw’r grŵp gwaed mwyaf cyffredin yng Nghymru. Ni ellir cadw gwaed am gyfnod hir - mae’r ffaith nad yw’n para’n hir yn golygu bod rhaid adnewyddu cyflenwadau bob dydd. 
  • GGC sydd hefyd yn cadw Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru. Gall rhoddwyr gwaed rhwng 17 a 30 mlwydd oed ymuno â’r gronfa ddata sy’n cael ei defnyddio bob dydd i chwilio am roddwyr-gleifion i’w paru ledled y byd.