Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi menter Sêr Ein Hysgolion

Yn ddiweddar fe helpodd Cyngor Bro Morgannwg i fwrw goleuni ar  y gwaith a wneir gan staff cymorth ysgolion.

 

  • Dydd Gwener, 13 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Support staff banner size

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas a’r Dirprwy Arweinydd Lis Burnett ar ymweliad ag Ysgol Uwchradd Pencoedtre fel rhan o fenter Sêr Ein Hysgolion, a drefnwyd gan Unsain.

 

Nod hwn yw cydnabod y cyfraniad gan weithwyr proffesiynol fel staff cymorth a chynorthwywyr dysgu ledled y sir. O fewn ysgol, mae yna rychwant eang o bobl sy’n cynorthwyo athrawon, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt, gan gyflawni swyddogaethau fel arlwyo, gweinyddiaeth, cyllid, llyfrgelloedd a mwy.

 

Mae staff cymorth yn chware rhan allweddol yn cadw plant yn ddiogel yn yr ysgol, tra hefyd yn creu amgylchedd dysgu hapus ac iach.

 

Yn Ysgol Pencoedtra, datgelodd Caerwyn Woods, 12 oed ac sydd ag awtistiaeth, y gwahaniaeth y mae Cynorthwywyr Cymorth Dysgu (CCD) wedi ei wneud i’w fywyd.

“Os oes prawf gen i, fe fyddan nhw fel arfer yn darllen y cwestiwn i mi a fy helpu gyda fy ngwaith” meddai.

 

"Allan nhw ddim rhoi yr atebion i mi, ond maen nhw’n gallu egluro ystyr pethau ac os na fydden nhw yno mae’n bosib y byddwn wedi rhoi’r ffidil yn y to. Hefyd, os bydd unrhyw un yn gwneud hwyl am fy mhen, maen nhw’n dweud wrthyn nhw am beidio. 

 

“Os ydw i mewn dosbarth a’i bod yn rhy swnllyd rwy’n gwylltio felly weithiau rwy’n gallu mynd i’r CAD (Canolfan Adnoddau Dysgu) lle mae’n dawelach. Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.

 

“Unwaith fe guddiais i yn y CAD am fod pobl yn gas i mi ond daeth y CCD o hyd i mi ac egluro pam fod angen i mi fynd i’r gwersi. 

 

“Os oes problem gen i rwy’n mynd at Ms Olsson, Ms Greenslade neu Ms O’Connor. O’r blaen roeddwn yn arfer ypsetio’n lân, ond mae’n dda cael pobl i siarad â nhw.”

 

Eglurodd Sarah Greenslade, rhan o’r tîm Cymorth Dysgu yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre, rywfaint am ei gwaith hi a’i chydweithwyr yn helpu’r disgyblion.

“Mae ystafell gen i ym mhen draw’r coridor ac rwy’n cynnal grwpiau i ddisgyblion sy’n agored i niwed yn ystod yr egwyl ac amser cinio”, meddai.

 

"Gall unrhyw un ddod os ydyn nhw’n dymuno. Unwaith, ar ôl iddyn nhw adael, mi es nôl i mewn ac roedd Carwyn yn cuddio dan ddesg.

 

“Fe ddwedodd nad oedd am fynd nôl i’w wers. Fe ddarganfuon ni beth oedd y rheswm am hynny, ei gymryd i’r wers a’i setlo lawr yno.

 

“O’r blaen roedd popeth yn ormod, ond nawr bydd yn chwilio am rywun os oes problem ganddo ac mae’n fwy agored ac a diddordeb gwirioneddol yn ei addysg.

 

“Mae’n rhaid i chi greu perthynas dda dros ben gyda’r plant. Mae merch gen i ym mlwyddyn 11 sydd yn cael trafferthion ar hyn o bryd felly fe ddechreuais ar gynllun Dydd Gwener siocled poeth. Mae pawb yn eistedd o gwmpas ac yn araf mae’n dechrau agor lan, cysylltu mwy â’i ffrindiau ac mae hynny’n creu gwell rhwydwaith iddi.

 

“Os na fyddai CCDau gennym fydden ni ddim yn gallu rhedeg yr ysgol. Maen nhw’n gwbl hanfodol ac mae’r CCDau yma yn hollol anhygoel.

 

“Mae rhychwant helaeth o dalentau gennym, mae gennym CCDau sy’n dda o ran chwaraeon neu gelf. Mae rhywun gennym sydd yn gwneud dynwarediad da o Nessa (o’r gyfres Gavin a Stacey). Mae’n gwneud i bobl chwerthin ac mae’r disgyblion yn meddwl, ‘gallaf, gallaf fynd ati hi.’

 

“Heb y CCDau byddai llawer o’r plant hyn mewn ysgol arbennig a ddim yn gallu cymysgu â’u cyfoedion mewn lleoliad prif ffrwd.”