Cost of Living Support Icon

 

Disgwyl i'r gwaith barhau yn Weycock Cross a'r ardaloedd cyfagos

Er bod y ffordd newydd ar hyd Lôn Pum Milltir ar agor bellach, bydd ychydig o reolaeth traffig yn parhau ger Weycock Cross wrth i Ddŵr Cymru barhau i wneud gwaith hanfodol yn yr ardal.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Rhagfyr 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r gwaith ar hyd Port Road West, tuag at Y Rhws, Sain Tathan a Llanilltud Fawr, bellach wedi dod i ben, ond bydd conau a mesurau rheoli traffig eraill ar waith nes bydd stydiau ffordd dros dro yn cael eu gosod i nodi’r lonydd amrywiol.  


Tan bod y gwaith hwn wedi dod i ben, dim ond un lôn, yn hytrach na 2, fydd ar gael wrth deithio tua’r dwyrain at y Barri o’r Rhws. Fodd bynnag, gan fod dwy lôn y gylchfan ar waith, mae disgwyl i’r traffig symud yn fwy rhwydd.  


Gobeithir y bydd y lonydd traffig yn gallu cael eu marcio dros dro cyn y Nadolig.


Mae gan Ddŵr Cymru waith i’w gwblhau ar hyd Pontypridd Road a Lôn Pum Milltir tuag at y Ganolfan Heboga. Mae hwn yn barhad o’r gwaith sydd eisoes ar waith ar Pontypridd Road ar hyn o bryd. 


Bydd Dŵr Cymru’n gwaredu’r rheolaeth draffig ynghlwm wrth hyn ar 20 Rhagfyr ar gyfer gwyliau’r Nadolig.  


Yn y flwyddyn newydd, bydd mesurau rheoli traffig pellach ar waith i alluogi Dŵr Cymru i barhau â’r gwaith.


Mae union raddfa y trefniadau hyn dal yn cael ei thrafod gyda’r Cyngor, a bydd gwybodaeth bellach ar gael ar ddechrau’r flwyddyn newydd.


Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyd Lôn Pum Milltir yn parhau yn y flwyddyn newydd rhwng 7pm a 7am.

 

Credyd delwedd : Google Maps, 2019