Cost of Living Support Icon

 

Perchennog bwyty yn y Barri’n cael dirwy am arddangos sgôr hylendid bwyd anghywir

Mae perchennog bwyty yn y Barri wedi cael dirwy am arddangos sgôr hylendid bwyd anghywir ar wefan ei dŷ bwyta ar ôl erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Bro Morgannwg trwy’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.

 

  • Dydd Gwener, 01 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



Honnodd Ali Deveci, a oedd yn gweithredu Izmir Greek and Turkish Restaurant ar Broad Street yn y Barri, fod gan ei dŷ bwyta sgôr hylendid bwyd o bump ond mewn gwirionedd sgôr hylendid bwyd o un oedd ganddo.


Digwyddodd hyn ym mis Hydref 2017 ac eto pum mis yn ddiweddarach a phlediodd Mr Deveci yn euog o ddau drosedd dan Reoliadau Amddiffyn Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 mewn gwrandawiad diweddar yn Llys Ynadon Caerdydd.

 

Eng_blue

 Cafodd ddirwy o £240, £120 am bob trosedd, a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £120 a thâl dioddefwr o £30.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chyfreithiol, y Cynghorydd Hunter Jarvie: “Dim sticeri ar y ffenestr yn unig yw sgoriau hylendid, maen nhw’n cyfeirio at safon hylendid mewn busnes ac maen nhw’n gyfeiriad pwysig i gwsmeriaid.


“Mae angen i siopau bwyd fodloni ystod o feini prawf penodol i ennill sgôr o bump. Mae angen ymrwymiad i arfer da i gyflawni hyn ac nid oes llwybr byr i’w gyflawni ychwaith. 

 

hygiene01


Camarweiniodd Mr Deveci bobl am sgôr hylendid ei fusnes yn fwriadol trwy honni ei fod yn llawer gwell nad yr oedd mewn gwirionedd. 


“Gobeithio bod yr erlyniad hwn yn anfon neges glir bod sgoriau hylendid yn asesiadau pwysig o siopau bwyd a bydd unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn eu ffugio’n wynebu canlyniadau difrifol.” 

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, sy’n dwyn swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd y tri awdurdod lleol ynghyd.