Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn erlyn SA Brain ar ôl i ddyn ddisgyn a chael anafiadau difrifol 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi erlyn SA Brain ar ôl i gwsmer ddisgyn trwy ddrws seler heb ei gloi a chael anafiadau pen difrifol. 

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg

    Barri



Roedd y dioddefwr, sydd ddim eisiau cael ei enwi, yn nhafarn y Parc yn y Barri fis Chwefror diwethaf pan gafodd y drws ei adael ar agor ar gyfer staff glanhau a disgynnodd i lawr set o risiau concrid.


Cafodd ei ddarganfod gyda gwaed drosto ac yn anymwybodol ar ôl torri ei benglog a chael gwaed ar yr ymennydd.   


Roedd y niwed a gafodd mor ddifrifol, mae'r dyn dal yn derbyn triniaeth am faterion yn gysylltiedig â'r ddamwain ac, mewn datganiad o effaith ar y dioddefwr, esboniodd yr effaith y mae’r ddamwain wedi’i chael ar ei fywyd.  


Trwy'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, partneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, sy’n dwyn swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd y tri awdurdod lleol ynghyd, daethpwyd ag achosion yn erbyn SA Brain, sy’n rheoli’r dafarn.

 

parkcresFe wnaethant bledio’n euog dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 am fethu â sicrhau iechyd a diogelwch cwsmer. 


Mewn gwrandawiad yn Llys yr Ynadon Caerdydd, cafodd y cwmni ddirwy o £140,000, a’u gorchymyn i dalu costau o £11,835.48 a gordal dioddefwr o £170. 

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chyfreithiol, y Cynghorydd Hunter Jarvie: “Roedd hwn yn gamgymeriad dirfawr a arweiniodd at unigolyn yn dioddef anafiadau difrifol, hir dymor. 


“Fel Cyngor, rydym yn cymryd ein dyletswydd gofal i’r cyhoedd yn ddifrifol iawn a byddwn yn parhau i fynd ar ôl cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio’n briodol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.  “Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn anfon neges bod rhaid dilyn deddfwriaeth o’r fath yn drwyadl a bod canlyniadau difrifol os na wneir hynny."