Cost of Living Support Icon

 

Cynnig i gynyddu’r dreth gyngor gan 4.9% i helpu i gau bwlch cyllido Cyngor Bro Morgannwg

Bydd cynnydd yn y dreth gyngor ym Mro Morgannwg yn cael ei gynnig i gynghorwyr yn hwyrach yn y mis wrth i Gyngor Bro Morgannwg geisio lliniaru’r effaith y mae toriadau diweddar Llywodraeth Cymru yn ei chael ar wasanaethau yn y sir.  

 

  • Dydd Mercher, 13 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



Bydd cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad yr wythnos nesaf yn argymell cynnydd o 4.9% ar gyfradd y dreth gyngor bresennol. Byddai hyn yn gosod y lefel am eiddo Band D ar £1,245.06 y flwyddyn am 2019/20.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud arbedion o £55m ers 2010 – mwy na’r gyllideb gyfan ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion eleni. Er gwaethaf hyn, rydym yn wynebu mwy o her ariannol yn 2019/20 nag erioed. 

 

“Mae’r galw am ein gwasanaethau, megis addysg a gofal cymdeithasol, yn parhau i godi, ynghyd â’r gost o’u darparu, a bellach rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o dalu costau uwch cyfraniadau cyflogwyr i Gronfa Bensiwn Athrawon.  Bydd y cynnydd hwn, sy’n deillio o adolygiad o gynllun pensiwn athrawon, yn costio £3.1m i’r Cyngor dros y ddwy flynedd nesaf. 

 

“Fodd bynnag, nid ydym yn trosglwyddo’r costau hyn i breswylwyr yn unig. Rydym wedi llwyddo sawl gwaith yn y blynyddoedd diwethaf i leihau’r gost o ddarparu gwasanaethau ac ochr yn ochr â’r cynnydd yn y dreth gyngor rydym wedi gosod nod heriol i’n hunain o £3.7m o arbedion yn y deuddeg mis nesaf.” 

Os caiff y cynigion cyllideb eu cymeradwyo gan gabinet y Cyngor, byddant yn cael eu cyflwyno i gyfarfod y Cyngor llawn ar 27 Chwefror.

 

Petaent yn cael eu cymeradwyo, byddai cyllideb y Cyngor yn dod i £226m ar gyfer 2019/20.

Byddai £87m ohoni’n cael ei glustnodi ar gyfer ysgolion a £48m ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, o blith nifer o wasanaethau allweddol eraill. 

 

Mae adroddiad ar wahân fydd hefyd yn cael ei ystyried yn yr un cyfarfod yn cynnig cael gwared ar y gostyngiad o 50% oddi ar y dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi.

 

Gallai hynny arwain at incwm ychwanegol i’r awdurdod gan ddychwelyd cartrefi gwag i ddefnydd eto.