Cost of Living Support Icon

 

Swyddogion Cyngor Bro Morgannwg yn mynd i ddigwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost yn yr Oriel Ganolog

Bu i Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant, Bob Penrose a’r Maer Leighton Rowlands gynnal digwyddiad yn yr Oriel Ganolog yn ddiweddar ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost.

 

  • Dydd Iau, 07 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



Rhoddodd y ddau anerchiad cyn y daeth dau artist i gyflwyno eu harddangosiadau, sydd ar ddangos ar hyn o bryd yn yr oriel yn y Barri ar y thema Gorfod Gadael (Torn from Home).


Cyflea Alison Lochhead stori gwrthdaro, mudo a dinistrio diwylliant a hanes drwy ei gosodiad o esgidiau haearn bwrw, llyfrau wedi’u llosgi a cholofnau rwbel.


Ystyria paentiadau digidol Nerea Martinez de Lecea, ‘Child A’, hunaniaeth wedi torri a synnwyr ac ymdeimlad o'u lle o fod yn y byd.

 

HMD

Dywedodd y Cynghorydd Penrose: “Roeddwn i’n awyddus i fynd i’r digwyddiad pwysig hwn a gweld darnau o waith gan ddau artist hynod o dalentog. 


“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ein hatgoffa o un o gyfnodau tywyllaf hanes dyn.


“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu gwersi gan drasiedi mor anhraethadwy ac mae gwaith y ddau artist hwn yn sicr yn cyfleu neges deimladwy.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Rowlands: “Hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i fynd i brofi gwaith y ddau artist hynod hyn dros eu hunain.


“Mae’r ddau gasgliad celf yn hynod drawiadol ac mae’n wych bod gennym ni gyfleuster fel yr Oriel Ganolog lle gallwn eu harddangos.”

Gallwch weld yr arddangosiadau yn yr Oriel Gelf Ganolog, Sgwâr y Brenin, y Barri, tan ddydd Sadwrn 02 Mawrth 2019. 


Mae’r oriel ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener, rhwng 09:30am a 4:30pm, a rhwng 09:30am a 3:30pm ar ddydd Sadwrn. 


I gael rhagor o wybodaeth am hyn ac arddangosfeydd yn y dyfodol yn yr Oriel Gelf Ganolog, ewch ar www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral.