Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn mynychu cyfarfod Master Mariner  

Cafodd Cyngor Bro Morgannwg gyfarfod buddiol gyda bragdy Brains, cynrychiolwyr cymunedau lleol a phartïon eraill â diddordeb i drafod dyfodol tafarn y Master Mariner. 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



 

 master-mariner-barry

 

Roedd yr Aelod Cynulliad Jane Hutt a chynrychiolydd o swyddfa Alun Cairns hefyd yn bresennol, wrth i gynlluniau ar gyfer y lleoliad gael eu trafod. 


Yn ystod y cyfarfod, pwysleisiodd trigolion a Chynghorwyr pa mor bwysig mae rôl yr adeilad yn y gymuned, a dywedodd Brains y byddent yn falch o glywed gan unrhyw un a ddymunai gyflwyno cynnig ymarferol i alluogi’r dafarn i barhau i fasnachu ar sail gynaliadwy hirdymor. 


Mae’r Cyngor eisoes wedi ystyried dulliau eraill o ddefnyddio’r safle, gan gynnwys tai fforddiadwy, ar y sail nad oedd Brains wedi gallu dod o hyd i bartner masnachu addas. 


Mae cwmni rheoli’n rhedeg y dafarn ar hyn o bryd, ac fe roddon nhw a Brains sicrwydd na fyddai’n cau yn y dyfodol agos, ac y byddai hyn yn rhoi cyfle i gyflwyno a gwerthuso cynigion newydd. 


Bydd cyfarfod arall ymhen rhyw dri mis i ailasesu’r sefyllfa. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: “Dim ond am ei fod yn deall nad oedd cynigion gwahanol ymarferol i gadw’r adeilad yn agored fel tafarn yr ystyriodd y Cyngor ddefnydd arall o’r safle. Os oes ffordd ymarferol o gadw’r dafarn gymunedol hon ar agor, rydyn ni’n cefnogi hynny’n llwyr.”