Cost of Living Support Icon

 

Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg yn rhybuddio y gallai’r toriadau i gyllid y Cyngor a wneir bob blwyddyn gael canlyniadau difrifol iawng

MAE’R Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas wedi rhybuddio bod gwasanaethau Cyngor Bro Morgannwg dan fygythiad difrifol o ganlyniad i’r cyllid sydd wedi’i dorri.  

 

  • Dydd Gwener, 08 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r cyngor wedi gorfod arbed £55 miliwn yn y naw mlynedd diwethaf ac mae angen iddo ddod o hyd i £15 miliwn yn ychwanegol yn y tair blynedd nesaf.


Yn y cyd-destun o gyllideb flynyddol gwerth £225 miliwn, mae maint yr arbedion hyn yn sylweddol. 


Mae’r cyllid gostyngol a ddaw gan Lywodraeth Cymru, chwyddiant a’r pwysau cynyddol ar wasanaethau allweddol a hanfodol wedi gadael diffyg rhwng y gost o weithredu gwasanaethau’r Cyngor a’r arian sydd ar gael i’w wario.


Cynyddodd y Dreth Gyngor gydag 3.9 y cant ym Mro Morgannwg y llynedd er mwyn helpu i gau’r bwlch hwn – dyna oedd un o’r trethi cyngor a gynyddodd y lleiaf yng Nghymru, gyda llawer o Awdurdodau Lleol yn dewis cynnydd llawer mwy dramatig.


Ond mae’r arian a ddaeth o’r cynnydd hwn yn gwneud yn iawn am ran fechan o’r diffyg yn y gyllideb y mae’r Cyngor yn ei wynebu.


Ac, wrth siarad â BBC Cymru heddiw, pwysleisiodd Mr Thomas y bydd canlyniadau difrifol iawn oni bai y bydd cydnabyddiaeth am werth a phwysigrwydd yr ystod o wasanaethau lleol a gynigir gan y Cyngor yn ogystal â chydnabyddiaeth am y costau cynyddol sy’n berthnasol â’u darpariaeth. 

 

RobBBC

Mae’r gwasanaethau hyn yn ymestyn o ofal cymdeithasol i addysg, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau cymdogaeth, iechyd yr amgylchedd, cynllunio, datblygu economaidd a thai. 

 

“Rwy’n cydymdeimlo â thrigolion, oherwydd bod pobl yn talu mwy, mae’r dreth gyngor yn cynyddu,” meddai ef.


“Y gwir yw, ei bod yn cynyddu oherwydd bod yr arian a gawn gan Lywodraeth Cymru yn gostwng. Mae angen inni lenwi’r diffyg, ond nid yw hyn yn ei lenwi’n llwyr ac mae gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr iawn o dan fygythiad os bydd y sefyllfa’n parhau.”

Mae’r cyllid gwerth £151.923 miliwn gan Lywodraeth Cymru y disgwylir i’r Cyngor ei gael yn ystod 2019/20 yn ostyngiad 0.7 y cant, neu £1.037 miliwn, o’i gymharu â’r flwyddyn cynt.


Mewn termau real, gan ystyried chwyddiant a ffactorau eraill megis chwyddiant cyflogau cenedlaethol a’r cynllun pensiwn athrawon nas ariannwyd, mae'r gostyngiad yn y gyllideb yn debycach i 4.2 y cant.

 

Ychwanegodd Mr Thomas: “Fel Cyngor, rydym ni wedi bod yn greadigol wrth ymdopi â’r sefyllfa heriol sydd gennym ni ar hyn o bryd.

 

“Yn hytrach na chau llyfrgelloedd, er enghraifft, rydym ni wedi gwneud trefniadau fel y gallant gael eu rheoli gan y cymunedau sy’n manteisio ar eu gwasanaethau.


“Rydym ni hefyd yn edrych ar fentrau tebyg mewn meysydd eraill. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i ddarparu gofal cymdeithasol, datblygu gwasanaethau a rennir mewn meysydd pwysig, megis iechyd yr amgylchedd, er mwyn inni ddatblygu gwydnwch a thorri costau, yn ogystal â gweithio gyda Chynghorau eraill ar draws y rhanbarth i ddenu buddsoddiadau a swyddi o ansawdd dda.  


“Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n mynd yn fwyfwy heriol ac mae angen cydnabod cyn gynted â phosibl bod yn rhaid i Gynghorau lleol cael cyllid priodol er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn lleol.”