Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg i greu ardaloedd blodau gwyllt ar hyd Marine Drive

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cymryd camau i greu ardaloedd blodau gwyllt mawr ar dir ar hyd Marine Drive yn Y Barri.

 

  • Dydd Mawrth, 26 Mis Chwefror 2019

    Bro Morgannwg



Fel rhan o bolisi ehangach i hyrwyddo mwy o fioamrywiaeth mewn parciau a mannau agored yn y Sir, dylai'r symud ddarparu gwell amodau ar gyfer peillio pryfed a bod yn fwy ffafriol i fywyd gwyllt arall.


Central Park 2018 wildflowers or green concreteMae'r cynllun yn golygu newid y rheolaeth ar ardaloedd glaswelltir ar ddwy ran o Marine Drive.


Bydd cam un, sy'n cael ei adnabod fel blodau gwyllt ac ardaloedd gwyllt y gorllewin, yn gweld glaswelltir o tua 23,500 m2, yn ffinio â Cliff Wood ar ochr orllewin Marine Drive, sy'n cael ei adael i dyfu'n naturiol a'i dorri ar un achlysur yn unig yn yr Hydref.


Caiff rhan o'r ardal hon ei gorhau â hadau i greu rhan ddeniadol o flodau gwyllt, gyda llwybrau wedi'u torri’n fyr er mwyn i bobl fwynhau'r golygfeydd.


Fel rhan o'r ail gam, sef ymestyn blodau gwyllt a choetiroedd Birchgrove, bydd ardal laswelltog o tua 19,000 m2 tuag at ben arall Marine Drive hefyd yn cael tyfu ac yn cael ei dorri unwaith yn unig yn yr Hydref.


Unwaith eto, bydd llwybrau'n cael eu torri yma er mwyn i bobl fwynhau'r amgylchedd, ac mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynyddu'r gorchudd coed ar ochr ddwyreiniol y safle, gan ymestyn llinell y coed o goed Birchgrove i fyny i gefnen Bull Cliff.


Bydd hyn yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth yr ardal yn sylweddol, gan wella amodau ar gyfer planhigion, pryfed peillio ac adar, a chreu coridor i fywyd gwyllt a allai o bosibl ymestyn yr holl ffordd o Barc Porthkerry i Barc Romilly.


Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym wedi colli llawer o orchudd coed yn y dref dros yr ychydig ddegawdau diwethaf ac, er ein bod wedi parhau i blannu coed yn ein parciau a'n gerddi, mae gennym ffordd bell i fynd i wneud iawn am y diffyg.


"Dylai'r cynllun hwn greu ardal fawr, ble gall bywyd gwyllt ffynnu, gan ei wneud yn fwy bioamrywiol a rhywle y gall pawb ei fwynhau."

 

 Marine Drive mapped proposed wildflower and wilder areas 2019-2021