Cost of Living Support Icon

 

Cynnig Gofal Plant 

Cynnig Gofal Plant 30 awr yn gymorth â groesawir ar gyfer rhieni ym Mro Morgannwg

  • Dydd Gwener, 18 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg


 

Childcare group

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd Bro Morgannwg yn dechrau darparu'r cynnig gofal plant 30 awr ar draws y Sir gyfan ar ddechrau 2019; o Ragfyr 2018 ymlaen, bydd yr Awdurdod Lleol yn paratoi gwaith i wneud i hyn ddigwydd.  

 

Bydd plant cymwys yn gallu elwa ar eu hawl i gael Meithrinfa Cyfnod Sylfaen (12.5awr) a Gofal Plant (17.5 awr).  

 

Rhagwelir y bydd y ceisiadau ar agor i rieni yn ystod yr wythnos yn dilyn hanner tymor mis Chwefror, dydd Llun 4 Mawrth 2019, gyda golwg ar sicrhau bod gofal plant ar gael yn dilyn gwyliau'r Pasg ar ddydd Llun 29 Ebrill 2019.  

 

Mae meini prawf penodol wedi'u pennu ar gyfer y cynnig gan gynnwys:

  • Mae plentyn yn 3 neu'n 4 mlwydd oed ac mae ganddo hawl i gael lle mewn Meithrinfa Cyfnod Sylfaen naill ai mewn lleoliad a gynhelir (mewn ysgol) neu nas gynhelir (o fewn sefydliad gofal plant penodol sy'n bodoli eisoes)
  • Rhaid i’r rhiant/rhieni fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig a byw yn barhaol yng Nghymru; rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu unig riant; ac yn ennill isafswm wythnosol o 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol (ICC) neu'r cyflog byw cenedlaethol (CBC) ac yn gallu profi eu bod yn gweithio trwy eu henillion.  Bydd rhagor o wybodaeth ar gael wrth wneud cais am y cynnig i rieni ar gyfnod mamolaeth/tadolaeth, rhai mathau o fudd-daliadau a hawliwyd ac ati.   
  • Dim ond darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy'n cytuno â thelerau ac amodau'r cynnig sy'n gallu darparu lleoedd gofal plant.
  • Bydd unrhyw daliadau ychwanegol gan gynnwys cinio, byrbryd a chludiant yn cael eu talu gan y rhiant/rhieni.
  • Telir y cyllid ar gyfer gofal plant yn uniongyrchol i ddarparwyr gofal plant sy'n cymryd rhan.

 

Sesiynau Galw Heibio

Dydd Mercher 30 Ionawr 2019, 6.30pm – 5.00pm

Swyddfeydd Dinesig, Y Barri

Ddim yn siŵr os ydych yn gymwys neu eisiau dysgu mwy am y Cynnig Gofal Plant 30 awr? Bydd ein tîm ar gael i ateb eich cwestiynau.

 

Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar:

  • 01446 704704