Cost of Living Support Icon

 

Cynyddu cyllid Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer Cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif

MAE CYLLID cam nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Bro Morgannwg wedi cynyddu i bron i £144 miliwn, sy’n golygu y bydd dwy ysgol a oedd i fod gael eu hailwampio yn cael adeiladau newydd sbon.

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



21st Century Schools LogoOs cytunir ar y cynigion gan Gabinet y Cyngor ddydd Llun, bydd Ysgol Uwchradd Pencoedtre ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas yn elwa ar adeiladau hollol newydd yn hytrach nag ailwampio.


Yn rhan o’r cynlluniau, adeiladir Canolfan Dysgu a Lles ehangach newydd, a fydd yn defnyddio dulliau therapiwtig i helpu’r plant hynny sy’n ei defnyddio gan gymryd lle'r Ganolfan dros Ragoriaeth mewn Ymddygiad a gafodd ei chynnig yn flaenorol.

Bydd cyflwyno’r newidiadau yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan gynnwys adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Pencoedtre yn sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddwy ysgol gyfrwng Saesneg yn y Barri, y llall yw Ysgol Uwchradd Whitmore. Bydd hyn hefyd yn lleihau’r costau cysylltiedig â chynnal a chadw’r hen adeilad.

Bydd hefyd yn golygu llai o amharu ar y prosesau addysgu a dysgu yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dan y cynigion, bydd y cyllid mwy ar gyfer Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn sicrhau y gall Ysgol y Deri ddarparu rhagor o leoedd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd hefyd buddsoddiad helaeth mewn darpariaeth addysg gynradd ledled y Sir, gyda chynlluniau manwl i’w datgelu yn y dyfodol agos.

Yn ystod cam cyntaf y prosiect, a elwir yn Fand A, dosbarthwyd £31 miliwn i chwe phroject: Cymuned Ddysgu Penarth, Ysgol Gymraeg Nant Talwg, Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant ac Ysgol Gynradd Oak Field, Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr  ac Ysgol Gynradd Colcot.

Caiff hyd yn oed ragor o gyllid ei wario ar Fand B, gyda lefel y buddsoddiad yn codi o £142.417 miliwn i £143.904 miliwn ar ôl i Lywodraeth Cymru ymrwymo rhagor o arian i’r project. Bwriad y Llywodraeth yw cyfrannu £84.567 miliwn, a bydd y Cyngor yn sicrhau y £59.337 miliwn sydd ar ôl.

Mae gwaith ar brojectau eraill sy’n ffurfio rhan o’r rhaglen gyllido eisoes ar y gweill yn rhan o ymrwymiad sylweddol i wella cyfleusterau addysgol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i filoedd o blant ledled y Fro.

Bydd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn gweld gwelliannau ar raddfa fawr yn ogystal â gwaith ehangu. Bydd hyn yn sicrhau darpariaeth ar gyfer y nifer gynyddol o ddisgyblion sydd angen addysg uwchradd yn y cyfrwng hwnnw yn ardal y Barri.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant yng Nghyngor Bro Morgannwg:

 

“Dylai’r gyllideb fwy hon ganiatáu inni  ymestyn ymhellach yr hyn a oedd eisoes yn rhaglen bellgyrhaeddol o fuddsoddi mewn trawsnewid addysg ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd a ffydd ar draws y Fro.

“Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, bydd Ysgol Uwchradd Pencoedtre ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Sain Nicolas yn elwa ar adeiladau newydd sbon yn rhan o gyfres eang o waith gwella.


“Bydd rhagor o ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwyaf agored i niwed y Sir, gan y dyrannwyd rhagor o arian i Ysgol y Deri ac i’r Ganolfan Dysgu a Lles.

“Bydd rhaglen fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i brofiad addysgol y plant ledled y Sir.

“Mae gwaith gwella helaeth eisoes ar y gweill mewn llu o adeiladau ysgol, a bydd hyn yn parhau ar raddfa fwy gyda’r cylch buddsoddi diweddaraf hwn.”