Cost of Living Support Icon

 

Un o redwyr gorau'r DU yn trefnu gweithgareddau ar ôl ysgol i blant Bro Morgannwg

I gydlynydd gweithgareddau chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg, Sam Gordon, nid yw cynnal sesiynau rhedeg i blant ysgol yn heriol o gwbl, o’i gymharu â gweddill ei ddiwrnod.  

  • Dydd Mawrth, 29 Mis Ionawr 2019

    Bro Morgannwg



samg1

Mae hynny’n hollol ddealladwy o ystyried mai’r dyn ifanc 24 oed hwn yw un o athletwyr mwyaf addawol y DU, ac mae’n treulio bron bob bore yn ymarfer ar y trac.


Mae Sam yn sbrintiwr a dyn cyflymaf Cymru ar hyn o bryd, gyda record bersonol o 10.14 eiliad dros 100m. 

 

“Fi yw cydlynydd gweithgareddau Cyngor Bro Morgannwg, sy’n golygu fy mod yn mynd i ysgolion ledled y Fro yn cynnal sesiynau chwaraeon,” meddai ef.

 

“Nid gwersi AG ydynt, felly does dim rhaid i blant gael graddau, mae’r sesiynau’n hwyliog a gallwn ni gael amser da. Dyma brif nod chwaraeon.

 

“Rwyf wrth fy modd yn gwneud fy swydd, ond mae’n heriol iawn ei chydbwyso â’r hyfforddiant, fel y bydd pob athletwr arall yn dweud wrthych.

 

“O ran hyfforddiant, rwy’n debygol o wneud 18 i 20 awr yr wythnos, ac yn gwneud cynnydd cyson.

 

“Rwy’n benderfynol o beidio â gadael rhywun arall fy maeddu achos ei fod e wedi hyfforddi’n fwy na fi. Mae gennyf lawer i’w brofi.

 

“Felly, rwy’n dod i bob sesiwn, pob ras, fel yr athletwr sydd angen profi ei hun gan wybod fy mod wedi ymdrechu cymaint ag y sawl sy’n ennill. Mae hyn yn swnio’n ystrydebol iawn, ond mae’n rhaid imi gadw at y meddylfryd hwn, neu fel arall ni fyddaf byth yn cyrraedd y brig.”

 

Mae’r amserlen ddyddiol amrywiol hon wedi denu sylw’r BBC yn ddiweddar.


Gwnaethant gyfweld â Sam yn ystod sesiwn yn Ysgol St Cyres, sef un o’r llu o sesiynau y mae Sam yn eu cynnal ledled y sir bob wythnos.

 

Rôl Sam fel cydlynydd gweithgareddau yn nhîm byw’n iach y Cyngor yw helpu i gynyddu nifer y plant sy’n gorfforol actif. 


Fel rhan o’r rhaglen 5x60 / Pobl Ifanc Actif, mae’n helpu i gynnig amryw gyfleoedd i annog disgyblion na fyddai fel arall yn cymryd rhan mewn clybiau ysgol allgyrsiol. 

 

samg2

Ychwanegodd Sam, “Pe byddaf yn cyflawni pob amcan rwyf wedi ei roi o’m blaen, gallai hon fod yn flwyddyn hir iawn ond â llawer o wobrau hefyd, a gallaf roi fy enw ar y llwyfan rhyngwladol er mwyn i bobl ddod i adnabod fy enw.”


“Fy nod yw bod y sbrintiwr cyflymaf yn hanes Cymru. Rwy’n wirioneddol awyddus i ddwyn y teitl rhedwr cyntaf o Gymru i redeg 100m o dan 10 eiliad. 


“Mae sbrintio ac athletau yn chwaraeon costus, a does gennyf ddim noddwyr o gwbl. 
“Gall y rhan fwyaf o athletwyr Prydain Fawr fanteisio ar swm mawr o arian y loteri i’w cefnogi. Rwy’n cael oddeutu 10 y cant o’r hyn y maen nhw’n ei ennill, felly mae hyn yn golygu bod dal angen imi weithio.


“Ond mae hynny’n iawn, gan fy mod yn mwynhau’r swydd hon.”

Fideo wedi darpara gan y BBC https://www.bbc.co.uk/sport/av/wales/46978242