Cost of Living Support Icon

 

Wythnos Ddala’r Bws

Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth yn Cefnogi Wythnos Ddala’r Bws

 

  • Dydd Llun, 01 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Cllr-King-taking-part-in-catch-the-bus-week

Aeth y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth ar daith bws gwasanaeth 95A rhwng Ysbyty Llandochau a Phenarth i nodi Wythnos Ddala’r Bws.

 

Mae’r llwybr yn cynnig cysylltiad trafnidiaeth hollbwysig i drigolion lleol ac wedi derbyn cymorth ariannol yn ddiweddar gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn parhau.

 

Cllr-King-catching-the-busGan deithio ar hyd Redlands Road a Stanwell Road at Benarth ymunodd y Cynghorydd King â’r bobl hynny oedd yn teithio i’r gwaith neu i ymweld â ffrindiau a theulu yn yr ysbyty.

 

Mae Wythnos Ddala’r Bws yn ymgyrch sy’n hyrwyddo manteision y math hwn o deithio a drefnir gan Greener Journeys UK o 1 i 7 Gorffennaf. 

 

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae’r ymgyrch yn amlygu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mynd ar y bws yn ogystal â thynnu sylw at y 3.5 miliwn o bobl Brydeinig sy’n teithio i’r gwaith ar y bws bob dydd.

 

“Rwy’n falch o gefnogi Wythnos Ddala’r Bws, sy’n helpu i hyrwyddo'r manteision lluosog sydd gan y dull hwn o deithio i’w cynnig. Mewn oes gyda mwy o dagfeydd a’r pryderon amgylcheddol mae hyn yn eu hachosi, mae teithio ar fws yn un ffordd syml o leihau ein hôl troed carbon. Wrth i ni geisio byw bywydau gwyrddach, byddwn yn annog pawb i ddefnyddio eu gwasanaeth bws lleol cymaint â phosibl. Nid yw’n unig yn dda i’r blaned ond mae hefyd yn ffordd fforddiadwy a chymdeithasol o gyrraedd lleoedd. 

 

“Mae gwasanaeth bws 95A yn benodol yn chwarae rôl hollbwysig yn ein cymuned. Mae’n galluogi trigolion i ymweld â theulu a ffrindiau sâl neu sydd ag anafiad yn yr ysbyty ac mae hefyd yn cynnig i weithwyr proffesiynol sy’n cyflawni swyddi mor bwysig ffordd reolaidd a dibynadwy o gyrraedd y gwaith.” - Cyng. King, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.

 

Disgrifiodd Gareth Stevens, Cyfarwyddwyr Gweithrediadau a Masnachol Dros Dro Bws Caerdydd, sy’n gweithredu’r gwasanaeth 95a, Wythnos Ddala’r Bws yn ffordd wych o dynnu sylw at fanteision amrywiol teithio yn y modd hwn.

 

“Rydyn ni ym Mws Caerdydd yn falch o weithio gyda’r Cyng. King yn ystod Wythnos Ddala’r Bws eleni. Mae’r ymgyrch yn hollbwysig o ran tynnu sylw at fanteision niferus teithio ar fws, felly bydden ni’n annog pobl i gymryd rhan a dysgu mwy.“Rydyn ni’n gobeithio gweld wynebau newydd yn dala’r bws ac yn edrych ymlaen ar eu hadborth ar ein gwasanaethau.” - Gareth Stevens.

Mae Wythnos Ddala’r Bws, a hyrwyddir gan gwmnïau bysus, grwpiau teithwyr ac Awdurdodau Lleol, yn cynnwys tocynnau am ddim a digwyddiadau eraill wedi’u trefnu ledled y Wlad. 

 

Am fwy o wybodaeth am amserlenni bysus ym Mro Morgannwg a ledled Cymru, ffoniwch 0800 4640000 neu ewch i http://www.cymraeg.traveline.cymru/