Cost of Living Support Icon

 

Cynnig maes parcio newydd i ganol dre’r Bont-faen

Gallai maes parcio a man digwyddiadau dros dro newydd gael ei adeiladu yng nghanol y Bont-faen os cytunir ar gynlluniau Cyngor Bro Morgannwg wythnos nesaf.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Cowbridge livestock market side angle banner size

 

Caiff £65,000 ei ryddhau i ariannu arolygon safle a gwaith ymarferoldeb dros y flwyddyn nesaf, os cytunir ar adroddiad sy’n cael ei gyflwyno i gabinet y Cyngor ar 29 Gorffennaf. 

 

“Mae gwaith Ymddiriedolaeth y Siarter yw adfer muriau’r dref wir yn newid pryd a gwedd y rhan hon o’r dref a rhydd gyfle i ni sefydlu man canolog i ymwelwyr. Dyma beth fyddai’r man parcio ceir a digwyddiadau’n ei gynnig.  

 

“Mae diffyg llefydd parcio yng nghanol y dref yn hen broblem yn y Bont-faen. Mae cynlluniau eisoes ar waith i osod arwyneb carreg dros dro i osod llefydd parcio wrth muriau’r dref. Ond mae cyfle i fynd gam ymhellach a rhoi i’r Bont-faen y seilwaith sydd ei angen arni i fod yn gyrchfan o’r radd flaenaf i siopwyr a thwristiaid.  

 

“Ein cynnig newydd yw gwneud hyn drwy hefyd ddefnyddio’r tir mae’r farchnad da byw’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd at ddibenion parcio. Gwneir hyn mewn ffordd sy’n parchu lleoliad hanesyddol y safle yn yr ardal gadwraeth ac sy’n ategu project Gerddi’r Hen Neuadd yr Ymddiriedolaeth.” - Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett.

Byddai angen cynnal astudiaeth o ddichonoldeb ar y maes parcio newydd i benderfynu ar ymarferoldeb a nifer y lleoedd sydd eu hangen, ynghyd ag adolygiad presennol o strategaeth barcio’r Cyngor i’r Fro.

 

Bydd gan drigolion lleol a masnachwyr canol y dref oll gyfle i roi eu barn fel rhan o’r broses hon. Yn ogystal â llefydd i geir a man gollwng i fysus, byddai standiau beiciau a chyfleusterau teithio llesol eraill yn rhan fawr o unrhyw ddyluniad.Nid yw’r cynlluniau hyn yn effeithio ar waith

 

Ymddiriedolaeth Siarter y Bont-faen sydd eisoes yn mynd rhagddo’n llwyddiannus wrth ddatgelu muriau hanesyddol y dref wrth y farchnad drwy ddymchwel y llociau gwartheg segur. Ariannwyd y gwaith hwn yn rhannol gan Gronfa Cymhorthdal Cymunedau Cryf y Cyngor. 

 

Mae’r Cyngor wedi bod wrthi’n chwilio am ffordd newydd o ddefnyddio’r tir y mae’r farchnad da byw arno ers 2017. Cynigiwyd yn flaenorol i’r tir gael ei werthu i’w ddatblygu gyda rhywfaint o lefydd parcio ceir yno. 

 

Ond ni chaiff y drwydded a ddyfarnwyd i weithredu’r farchnad ei hymestyn y tu hwnt i’w therfyn ym Mawrth 2020. Mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau gwaith gyda phartïon â diddordeb i helpu i o bosibl sefydlu marchnad newydd mewn lleoliad mwy addas a chyraeddadwy i wasanaethu ffermwyr y rhanbarth.