Cost of Living Support Icon

 

Agoriad pentref newid newydd yng Nghanolfan Hamdden y Barri

Mae’r pentref newid newydd yng Nghanolfan Hamdden y Barri wedi agor i’r cyhoedd. 

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Gorffenaf 2019

    Bro Morgannwg



Barry Leisure Centre Changing Village banner size
Mae prif elfen buddsoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn y ganolfan hamdden yn y pentref newydd yn defnyddio ciwbiclau a loceri i greu gofod hygyrch sy’n rhoi mwy o breifatrwydd i bob defnyddiwr a mwy o le i deuluoedd a grwpiau i allu newid gyda’i gilydd.


Ar ben hynny, mae’r pentref newid newydd yn cynnwys ystafelloedd newid dynodedig i ysgolion fel bod lle gwell i ddisgyblion. Mae hefyd yn cynnwys cyfleusterau toiledau a chawodydd newydd. 


“Bro Morgannwg sydd â rhai o’r cyfleusterau hamdden uchaf eu defnydd yng Nghymru gyfan. Rydym yn gwybod pa mor werthfawr yw’r rhain a dyna pam fod y Cyngor yn rhoi buddsoddiad sylweddol i’r canolfannau hamdden ym Mhenarth ac yn y Barri. 


“Mae adeiladu’r pentref newid wedi bod yn broject cymhleth ac un sydd wedi gofyn am gryn ddyfeisgarwch ar adegau gan y contractwyr G. Oakley & Sons, Legacy Leisure a thîm rheoli’r project yn y cyngor er mwyn cadw’r cyfleuster ar agor i’r cyhoedd. 


“Ar ran pawb sydd wedi chwarae eu rhan hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr y ganolfan am eu hamynedd wrth i hyn fynd rhagddo.” - Yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.


“Mae’r cyfleusterau yng Nghanolfan Hamdden y Barri yn boblogaidd iawn ac rydym yn awyddus i roi’r profiad gorau posib i’n hymwelwyr. 


“Mae’r buddsoddiad sylweddol yn y pentref newydd yn rhan o hyn. Fe wrandawon ni ar adborth defnyddwyr gan greu ardal y credwn ni a fydd yn ateb y gofynion hyn a chynnig gofod newid cyfforddus, hygyrch a thipyn gwell.


“Gall projectau o’r maint ac o’r raddfa yma ddatgelu heriau ar hyd y daith, ond mae pawb sydd wedi bod ynghlwm wedi gweithio’n ddiflino i’w goresgyn a hoffwn ddiolch i’r cyhoedd yn lleol am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni barhau i wella’r cyfleusterau hamdden ar draws y rhanbarth.” - Rob Oaten, Rheolwr Contract ar gyfer Legacy Leisure Bro Morgannwg.

Yn ogystal â dymchwel rhai o’r waliau a thynnu ciwbiclau, loceri, nenfydau ac unedau awyru a goleuo, golygodd y gwaith adeiladu fod angen codi’r llawr yn y ganolfan hamdden a gosod system ddraenio newydd sbon.  


Y cam nesaf yn yr ail-wampio fydd gwelliannau i’r ystafelloedd newid sych. Mae disgwyl i’r gwaith hwn ddigwydd cyn hir.