Cost of Living Support Icon

 

Negeseuon Treth Twyllodrus

Mae wedi dod i sylw’r Cyngor bod nifer o breswylwyr wedi derbyn galwadau ffôn, negeseuon testun ac e-byst twyllodrus gan bobl sy’n honni eu bod yn gweithio i CThEM ac yn dweud eu bod am fynd â hwy i’r llys er mwyn hawlio treth heb ei thalu. 

 

  • Dydd Mercher, 26 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg

 


Email-warning-graphic

Cofiwch: Nid yw CThEM byth yn anfon hysbysiadau o ad-daliadau treth nac yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth talu mewn e-bost, mewn neges destun na thros y ffôn.

 

Os cewch chi neges dwyllodrus gan CThEM, dilynwch gyngor y Llywodraeth:

  • Anfonwch e-byst amheus ymlaen at dîm gwe-rwydo CThEM: phishing@hmrc.gsi.gov.uk

  • Anfonwch negeseuon testun amheus ymlaen at 60599. Codir tâl ar gyfradd eich rhwydwaith am anfon negeseuon testun.

  • Os bydd angen i CThEM gysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw beth cyfrinachol, byddant yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy’r post.

 

Sut mae gwybod bod neges yn dwyllodrus?

Mae CThEM yn eich cynghori i beidio ag agor atodiadau na chlicio unrhyw ddolenni mewn e-bost neu neges destun oherwydd gallant gynnwys meddalwedd maleisus neu’ch cyfeirio at wefan ffug.

 

Cymerwch olwg ar yr enghreifftiau canlynol o e-byst gwe-rwydo