Cost of Living Support Icon

 

Preswylwyr Tŷ Iolo yn cael rhoddion o eitemau personol gan yr elusen The Hygiene Bank

Mae preswylwyr hostel Tŷ Iolo Cyngor Bro Morgannwg wedi elwa ar roddion gan The Hygiene Bank, sefydliad sy’n rhoi eitemau gofal personol i’r rheiny sydd eu hangen fwyaf.  

 

  • Dydd Mercher, 26 Mis Mehefin 2019

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae Tŷ Iolo yn cynnig llety i unigolion sy’n wynebu digartrefedd mewn safle 21 ystafell sydd ag ystafell ymolchi ym mhob un ac mae pedair ohonynt yn hygyrch i bobl anabl. Mae ganddo lolfa a chegin fawr hefyd.


Yn ddiweddar, cysylltodd Caroline Volrath, cydlynydd The Hygiene Bank yng Nghymru, â’r safle gan gynnig cynhyrchion i’r bobl sy’n aros yno. 


Mae’r rhoddion wedi mynd i deuluoedd a phobl sengl sy’n agored i niwed, gan lwyddo i ddarparu nifer ac amrywiaeth i fodloni rhai ceisiadau penodol iawn.

 

hygiene1

Ymysg y pethau a anfonwyd i Dŷ Iolo y mae cynhyrchion hylendid, siampŵ, gel cawod, past dannedd, offer eillio a chewynnau. 


Mae The Hygiene Bank yn elusen genedlaethol a ddechreuodd weithredu yn y De-ddwyrain, wedi ei hysbrydoli gan ffilm Ken Loach, I Daniel Blake, a dynnodd sylw at y graddau y mae angen cynhyrchion gofal personol ar unigolion mewn rhai amgylchiadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, aelod cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Mae Tŷ Iolo yn wasanaeth anhygoel sy’n cynnig cymorth i rai o unigolion mwyaf agored i niwed y Fro pan fyddant ei angen fwyaf.


“Mae’n rhoi cymorth i’r rheiny all fod mewn sefyllfaoedd enbyd ac mae’r bartneriaeth hon gyda The Hygiene Bank yn ychwanegu ymhellach at y cymorth sydd eisoes ar gael iddynt.


“Rydym yn hynod ddiolchgar i Caroline am y rhoddion hael a gawsom hyd yma. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sydd wedi eu cael.”

Sefydlwyd yr elusen yng Nghymru gan Caroline o Dresimwn, a daeth mewn partneriaeth â Thŷ Iolo yn fuan. 


Mae The Hygiene Bank yn annog y gymuned i roi cynhyrchion gofal personol newydd heb eu hagor yn ogystal â deunyddiau harddwch hanfodol mewn blychau casglu wedi eu lleoli mewn siopau, darparwyr gwasanaethau a gwasanaethau cyhoeddus.


Anogir aelodau’r cyhoedd hefyd i drefnu casgliadau yn eu swyddfeydd, grwpiau chwaraeon, gyda’u ffrindiau a theuluoedd.


Caiff y cynhyrchion a roddir eu dosbarthu mewn grwpiau o gynhyrchion gofal personol hanfodol, ac anrhegion, ac wedyn i is-grwpiau yn ôl math o gynnyrch. 
Caiff yr eitemau eu hailbecynnu neu eu bagio yn ôl eu math a’u dosbarthu i bartneriaid elusennol a fydd yn eu tro yn eu dosbarthu i deuluoedd ac unigolion sydd mewn sefyllfaoedd argyfwng. 

 

hygiene2

Ymhell cyn i bobl fynd at y banc bwyd byddant wedi rhoi’r gorau i brynu cynhyrchion gofal personol.” meddai Caroline. “Ystyrir bod tlodi hylendid yn argyfwng cudd ym Mhrydain ac yn un sy’n tyfu, yn ôl adroddiad gan In Kind Direct yn 2017. Gydag ychydig o arian i ddarparu am gostau hanfodion bob dydd, mae rhai teuluoedd yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng prynu bwyd a phrynu eitemau hylendid personol.


“Mae tlodi hylendid yn gywilyddus, yn eich arwahanu ac yn eich allgau. Nid yw cael gwallt, croen a dannedd glân yn fraint. Nid yw tamponau, past dannedd a brwsh dannedd yn eitemau moethus.


“Rhan bwysig iawn o’n hethos yw bod eitemau a roddir yn lleol yn helpu pobl leol felly mae ein projectau oll yn helpu’r gymuned rydych yn byw ynddi. Mae gennym sawl lleoliad i adael rhoddion ym Mro Morgannwg a hoffem ehangu hyn ar draws Cymru. 


“Rydym yn awyddus i glywed gan wirfoddolwyr y byddent yn dymuno creu mannau gollwng a chasglu yn eu hardal leol, yn ogystal ag unrhyw gwmnïau y byddent yn ystyried trefnu man casglu yn eu swyddfeydd neu y gallent fod o gymorth mewn unrhyw ffordd arall.”

Er mwyn gwneud rhodd, cysylltwch â Caroline yn thbwales@gmail.com