Cost of Living Support Icon

 

£118,000 ar gyfer lleoliadau cymunedol ledled y Fro

Mae deuddeg lleoliad cymunedol ym Mro Morgannwg wedi derbyn cyfanswm o £118,683 gan Gronfa Grantiau Cymunedau Cryfach Cyngor Bro Morgannwg. 

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Treoes Hall interior

Mae Neuadd Gymunedol Treoes wedi cael ei hadnewyddu’n llwyr gyda charpedi, drysau tân, bleinds a chelfi newydd ar ôl i’r pwyllgor rheoli dderbyn grant gwerth £5,839. 

 

Meddai llefarydd dros y grŵp, “Roedd yr adborth gan aelodau hŷn y gymuned, yn arbennig y grŵp Young at Heart, yn dangos eu bod wrth eu boddau ar gael cadeiriau theatr modern cyfforddus i eistedd arnynt yn hytrach na’r hen gadeiriau bwced plastig.”

Mae Neuadd Gymuned y Rhws, Eglwys yr Holl Saint, Canolfan Gymunedol Castleland, Neuadd Bentref Llansanwyr, Neuadd Bentref Aberogwr, Festri Saron a Neuadd Bentref Gwenfô oll wedi elwa ar Gronfa Grantiau Cymunedau Cryfach. 

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Mae grwpiau lleol a’r gwirfoddolwyr sy’n eu cefnogi yn hanfodol i’n cymunedau.  

 

“Ym mis Awst 2017 neilltuodd y Cyngor £670,000 i gefnogi sefydliadau a arweinir gan gymunedau trwy Gronfa Grantiau Cymunedau Cryfach. Ers hynny rydym wedi derbyn dros 200 o ymholiadau gan y 3ydd sector ac wedi ariannu 34 o brojectau ym Mro Morgannwg. 

Murchfield Hall

 

“Sefydlwyd y gronfa er mwyn lleihau dibyniaeth y fath grwpiau ar grantiau a datblygu mentrau a chyfleusterau cymunedol arloesol ar hyd a lled Bro Morgannwg. 

 

“Mae’r buddsoddiad mewn lleoliadau megis Neuadd Gymuned Treoes a’r buddion sy’n dilyn hynny yn dangos ein bod yn cyflawni’r nod hwnnw.” 

Gellir gofyn am fwy o wybodaeth am y gronfa a ffurflen gais i ariannu project gan Dîm Datblygu Economaidd y Cyngor trwy e-bostio scgfapplications@valeofglamorgan.gov.uk neu ffonio 01446 704636.