Cost of Living Support Icon

 

Safle datblygiad Ynys y Barri’n cael ei ddangos i fuddsoddwyr rhyngwladol yn Cannes

13 Mawrth 2019 

 

  • Dydd Iau, 14 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Mae safle datblygu Pentir Nell yn Ynys y Barri yn cael ei arddangos yn arddangosiad eiddo mwyaf y byd, MIPIM, yn Cannes yr wythnos hon (Mawrth 12-15).

 

Nells Point development siteMae’r ‘Marché International des Professionnels de l’Immobilier’ (MIPIM) blynyddol yn dod â miloedd o fuddsoddwyr, datblygwyr a gweithwyr proffesiynol eiddo eraill ynghyd bob blwyddyn ac fe’i hystyrir yn gyfle i ddenu buddsoddiad rhyngwladol i’r DU.  

 

Mae Pentir Nell yn cael ei hyrwyddo gan ddirprwyon Adran Masnach Genedlaethol (DIT) sy’n mynychu’r gynhadledd fel un o’r cyfleoedd buddsoddi gorau yng Nghymru.    

 

Er bod Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu peidio ag anfon cynrychiolwyr i’r gynhadledd oherwydd costau, mae timau adfywio a datblygu economaidd y Cyngor wedi gweithio’n agos â DIT i sicrhau bod llawn botensial Ynys y Barri i’w weld. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, Yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio:  “Mae momentwm mawr iawn tu ôl adfywio’r Barri. Mae trawsffurfiad y dref yn fwyaf amlwg mae’n debyg yn Ynys y Barri a’r glannau cyfagos.

 

“Gyda chymaint o fomentwm y tu ôl i’r gwaith, roeddem yn credu ei bod hi’n amser iawn i geisio mwy o fuddsoddiad i safle Pentir Nell. Hoffem weithio gyda phobl uchelgeisiol sydd â chynlluniau difrifol ar gyfer y cyrchfan.

 

“Mae’r Adran Fasnach Ryngwladol yn cydnabod yn glir potensial Ynys y Barri a safle Pentir Nell. Dyma pam mae’n un o’r ychydig iawn o leoliadau Cymru sydd ar y prosbectws. Gobeithiaf y bydd mynychwyr y gynhadledd yn ei weld hefyd.” 

Ceisir hefyd fuddsoddiad posibl i Fro Morgannwg gan ddynodiad Prifddinas-ranbarth Caerdydd (P-RC). Bydd y dynodiad P-RC yn defnyddio’r digwyddiad i arddangos y Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol a lansiwyd yn ddiweddar, ynghyd â Phrosbectws Economaidd Bro Morgannwg fydd hefyd yn rhan o arddangosiad P-RC.

 

Mae’r Cynllun yn seiliedig ar gryfderau’r rhanbarth ac yn uchafu ei gyfleoedd. Mae’n amlygu sut mae de-ddwyrain Cymru yn berffaith ar gyfer buddsoddiad. Fel porth i Gymru a Lloegr, mae ganddo fantais fawr ac mae’n hwb cysylltedd allweddol o ran buddsoddiad a llif nwyddau, technolegau, pobl a syniadau.