Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cyhoeddi Amcanion Gwella Lles ar gyfer 2019/20

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi pennu wyth amcan gwella lles eleni 

 

  • Dydd Mawrth, 02 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg


 

 

Mae'r Cynllun Gwella (Rhan 1) wedi llywio gan Cynllun Corfforaethol y Cyngor, hunanasesiad blynyddol y Cyngor, y broses cynllunio gwasanaethau flynyddol, adroddiadau gan ein rheoleiddwyr allanol, yn ogystal â gan yr hyn mae ein trigolion wedi ei ddweud wrthym mewn ymgyngoriadau sydd wedi’u cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf. 

 

Mae'r Cyngor yn ymdrechu'n gyson i ddarparu ystod eang o wasanaethau hanfodol ac o ansawdd da i drigolion y Fro, gan geisio gwella ar yr un pryd.
 
Cyhoeddir y gweithgareddau i gyflawni Amcanion Llesiant (Gwelliant) y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod yn y Cynlluniau Gwasanaeth, sef y mecanwaith allweddol ar gyfer cyflawni ein Cynllun Corfforaethol a chaiff y rhain eu monitro bob chwarter.

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd statudol i gyhoeddi Amcanion Gwella bob blwyddyn, a phennu targedau’n erbyn y rhain er mwyn ysgogi gwelliannau mewn meysydd sy’n bwysig i ni ac i ddinasyddion.
 
Gallwch darllen mwy o wybodaeth ar ein Cynllun Gwella Rhan 1 2018-19 a'r crynodeb.