Cost of Living Support Icon

 

Ymgyrch y Cyngor i atal digartrefedd ieuenctid yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol

Mae model atal digartrefedd unigryw Cyngor Bro Morgannwg wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr “Project Digartrefedd y Flwyddyn” Gwobrau Tai’r DU.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



UK Housing AwardsMae’r gamp o gyrraedd y rhestr fer yn ganlyniad i fodel gwaith ar y cyd rhwng Tîm Atebion Tai ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor a Llamau, elusen ddigartrefedd flaenaf Cymru.


Diben y model yw ailgysylltu pobl ifanc â’u rhieni, eu hysgolion a’u gofalwyr a hwyluso proses gadarnhaol o dyfu’n oedolion.


Gyda ffocws ar berthnasoedd cymunedol a datblygiad parhaus, mae’n cronni gwybodaeth y Cyngor a’i bartneriaid allanol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc 16-25 oed ym Mro Morgannwg y mae angen tai arnynt yn cael eu rhoi ar y llwybr priodol. 


Mae “Porth Pobl Ifanc” y Cyngor, a hwylusir gan y Tîm Cefnogi Pobl, yn cynnig un pwynt mynediad ar gyfer llety ac yn symleiddio’r broses o wneud cais, atgyfeirio ac asesu.


Ar yr un pryd mae “Siop Gyngor” Llamau yn darparu gwasanaeth cyfryngu i helpu pobl ifanc i ailgysylltu â’u teuluoedd, eu cefnogi pan fyddant mewn llety amgen a’u helpu i gael budd-daliadau. 


Mae Llamau’n helpu i gefnogi rhai o’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed ym Mro Morgannwg ac mae ei ddrysau yn 236 Heol Holltwn yn y Barri ar agor i bawb.


Meddai’r Cyng. Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladau:

 

“Mae gan bobl ifanc ddigartref anghenion gwahanol i oedolion sydd, i ddechrau, yn gallu bod yn gudd neu’n gysylltiedig â phlentyndod difreintiedig neu brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod.


“Dyna pam mae gan ein project amrywiaeth eang o gyngor a chymorth – i sicrhau bod yr ymgeisydd yn derbyn cymorth sydd wedi’i deilwra i’w anghenion unigol.


“Rydym wedi gweithio’n galed i feithrin perthnasoedd ar draws yr awdurdod – er enghraifft, mae’r Gwasanaethau Plant yn cydgysylltu â’r Tîm Cefnogi Pobl – gan gyfathrebu hefyd â chwmnïau allanol megis Gyrfa Cymru i helpu pobl ifanc i gael cyfleoedd addysg a chyflogaeth.”


Meddai Joe Payne, Pennaeth Gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a’r Fro a Chyfryngu Teuluol dros Llamau:

 

“Rwy’n hynod falch o rôl sylfaenol Llamau yn y bartneriaeth ar atal digartrefedd ieuenctid sy’n nodweddu model Bro Morgannwg.


“Bydd gwaith ymyrraeth gynnar a chyfryngu teuluol yn atal digartrefedd lle bo modd ac yn ceisio cadw person ifanc yn amgylchedd ei gartref ar yr amod bod hynny’n diogel a phriodol.


Llamau“Mae prosesau asesu cydlynol wedyn yn sicrhau bod person ifanc y mae angen llety arno’n cael ei atgyfeirio i’r ffurf fwyaf priodol o lety, gyda’r lefel briodol o gymorth. Caiff y broses symud ymlaen ei chynllunio i fod yn amserol ac yn addas.


“Nod y dull gweithredu cyfan yw sicrhau’r canlyniadau gorau posib i bobl ifanc ym Mro Morgannwg.”


Mae mwy na 150,000 o bobl dan 25 oed yn gofyn am gymorth gyda digartrefedd yn y DU bob blwyddyn. Amcangyfrifwyd bod 7,000 ohonynt yn byw yng Nghymru.


Os ydych chi’n berson ifanc mewn perygl o fod yn ddigartref, neu os ydych yn gwybod am rywun a fyddai’n elwa ar gyngor a chymorth, ffoniwch y Cyngor ar 01446 748852.