Datgelu cynlluniau cyntaf wrth benodi contractwr ar gyfer Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Mae contractwr wedi’i benodi gan Gyngor Bro Morgannwg i adeiladu Ysgol Uwchradd Pencoedtre newydd.
Yn ôl cynlluniau yr ymgeisydd llwyddiannus, Bouygues, bydd gan yr adeilad newydd sbon neuadd chwaraeon pedwar cwrt, gofod perfformio, amgylcheddau dysgu arloesol, ardal i randiroedd, yn ogystal â chae hoci pob tywydd.

Mae’r contractwr wedi adeiladu Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn Llanilltud Fawr yn ogystal â Chymuned Ddysgu Penarth sydd wedi ennill llu o wobrau. Mae’r tri phroject wedi cael cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Rhaglen Addysg.
Disgwylir i’r project hwn gostio £34.7 miliwn.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Rhaglen gyfredol y Cyngor ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion yw’r fwyaf uchelgeisiol erioed i’w chyflawni yn y Fro.
“Mae profiad ysgol o’r radd flaenaf yn dechrau gyda chyfleusterau gradd flaenaf. Dechreuwyd gweddnewid ysgolion y Barri drwy greu ysgolion uwchradd Pencoedtre a Whitmore yn 2018. Bydd yr adeiladau newydd yn gwneud yn siŵr bod gan ddisgyblion y llwyfan gorau posibl i fod yn llwyddiannus.
“Caiff mwy na £143 miliwn eu gwario ar adeiladau ysgol a chyfleusterau newydd yn rhan o gam nesaf y buddsoddiad a fydd yn darparu am adeiladu ysgolion newydd ledled y Fro yn ogystal ag yma yn y Barri.”

Dywedodd cadeirydd Bouygues UK, Fabienne Viala: “Rydym yn hynod falch o gael ein penodi i gyflawni project Ysgol Uwchradd Pencoedtre newydd i Gyngor Bro Morgannwg, gan greu canolfan ddysgu arbennig i’r gymuned leol.
“Rydym ni wedi datblygu partneriaeth weithiol ragorol gyda’r Cyngor yn dilyn gwaith llwyddiannus ar Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr a Chymuned Ddysgu Penarth ac rydym yn falch iawn o roi ein sgiliau a’n profiad ar waith i wedd newid cyfleuster addysgol newydd.”
Cymeradwyodd y Cyngor yn ddiweddar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi ei hadolygu a oedd yn cynnwys adeiladu adeilad newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Pencoedtre.
Ceisiwyd cwmnïau i dendro ar gyfer y project drwy fframwaith contractwyr Ysgolion De-ddwyrain Cymru a Chyllid Cyfalaf ac aseswyd yr ymgeiswyr gan Gyngor Bro Morgannwg a AECOM (Ymgynghoriaeth Amlddisgyblaethol) ar sail cyfres o feini prawf.