Cost of Living Support Icon

 

Cyllideb 2019/20 Cyngor Bro Morgannwg wedi’i chytuno 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod cyllideb gwerth £226 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2019/20. 

 

  • Dydd Gwener, 08 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Clustnodwyd £87 miliwn ohoni ar gyfer ysgolion a £48 miliwn arall ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor, “Rydym wedi gosod cyllideb a fydd yn ein galluogi i barhau i gynnig gwasanaethau y mae eu safonau yn gweddu at yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru. 

 

“Mae galw am y gwasanaethau hynny, yn arbennig addysg a gofal cymdeithasol, yn parhau i gynyddu, ynghyd â’r gost o’u darparu. Fodd bynnag, nid ydym yn trosglwyddo’r costau hyn i breswylwyr yn unig. 

 

“Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud arbedion o £55m ers 2010 – mwy na’r gyllideb gyfan ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion eleni. Er gwaethaf hyn, rydym yn wynebu mwy o her ariannol yn 2019/20 nag erioed.

 

“Rydyn ni wedi gosod targed arbedion heriol iawn i ni ein hunain, o fwy na £3.8 miliwn ar gyfer y ddeuddeg mis nesaf. Rydym ni wedi cael llwyddiannau go iawn yn y blynyddoedd diweddar yn lleihau costau’r gwasanaethau rydym yn eu darparu, ac rwy’n ffyddiog iawn y gallwn ni drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflawni yn y Fro.”

 

Cytunwyd hefyd ar gynnydd o 4.9% ar gyfradd bresennol y dreth gyngor. Byddai hyn yn gosod y lefel am eiddo Band D ar £1,245.06 y flwyddyn am 2019/20. 

 

Dyrannwyd cyllid yn y gyllideb a gytunwyd ar 8 Mawrth yn ystod cyfarfod llawn y Cyngor, ar gyfer dwsinau o wasanaethau ar draws pedwar prif faes gwaith y Cyngor. 

 

Gosododd y Cynghorwyr y cyllid ar gyfer Dysgu a Sgiliau ar £105 miliwn. Gosodwyd y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ar £65 miliwn. Dyrannwyd £30 miliwn ar gyfer gwasanaethau tai a’r amgylchedd, gan gynnwys casgliadau gwastraff a chynnal a chadw ffyrdd.

 

Mae’r £4 miliwn sydd ar ôl yn mynd tuag at gynllunio ac adfywio, yn ogystal â’r amrywiaeth o swyddogaethau sydd eu hangen i gefnogi holl wasanaethau’r Cyngor.