Cost of Living Support Icon

 

Croeso cynnes i gymeradwyaeth cais cynllunio Goodsheds 

Mae caniatâd cynllunio amodol wedi’i roi i drosi sied nwyddau hanesyddol Hood Road yn y Barri ac adeiladu ‘pentref’ cynwysyddion dur ar ei phwys. 

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Goodsheds1Bydd y datblygiad Goodsheds hwn yn gartref i gymysgedd o fusnesau newydd, gan gynnwys bwytai, bar a bragdy, hyb technoleg ac 11 o unedau preswyl byw/gweithio. Bydd cyfanswm o 40 o gynwysyddion ar gael ar gyfer bwytai a busnesau creadigol bychan. 


Mae cynigion ar wahân ar yr un safle yn cynnwys hyd at 42 eiddo rhent.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio: “Mewn sawl ffordd mae’r cynigion a gafodd eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio wythnos diwetha’ yn crynhoi dull adfywio Cyngor Bro Morgannwg. 


 “Bydd y datblygiadau newydd cyffrous hyn yn creu cartref i fwy na 50 o fusnesau newydd. Mae’r dyluniad arloesol yn cyd-fynd â datblygiad cyfagos y Glannau. Mae’n fodern ac yn cynnwys cyfeiriadau pendant at orffennol diwydiannol y Barri.  

 

“Ochr yn ochr â gwella arlwy hamdden y dref gyda mentrau fel sinema awyr agored a bar to, bydd 42 eiddo rhent newydd yn cael eu creu hefyd. 

 

“Mae’r Cyngor wedi gweithio gyda’r datblygwr DS Properties o’r blaen ar ddatblygiad cyfagos y Tŷ Pwmpio. O ystyried llwyddiant arbennig y datblygiad hwnnw, rydym yn edrych ‘mlaen yn fawr at wneud hyn eto.” 

Goodsheds2Bydd yr ardal rhwng yr adeilad presennol a’r pentref cynwysyddion yn cynnwys ardal chwarae, gofod perfformio awyr agored a’r sinema awyr agored. 


Dywedodd Simon Baston, Cyfarwyddwr DS Properties: “Mae Loftco yn falch o arwain adfywio trefol cynaliadwy, ac unwaith eto yn falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg.

 

"Mae’r cynllun hwn yn grynhoad o ddyfodol y Barri fel lleoliad llewyrchus sy’n edrych tua’r dyfodol, sydd ag ymdeimlad gwych o le sy’n galluogi’r gymuned leol i gyfranogi’n llawn ar bob lefel o ran bywyd, gwaith a chwarae.”

Cynigir bar coffi ‘gyrru trwyddo’ a marchnad ffermwyr hefyd. Disgwylir i’r gwaith adeilad ddechrau o fewn ychydig fisoedd.