Cost of Living Support Icon

 

Gwaith yn dechrau ar ddatblygiad tai Brecon Court

Mae’r gwaith wedi dechrau ar broject gwerth £3.5 miliwn yn Brecon Court, y Barri, i gynyddu stoc dai Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Mawrth 2019

    Bro Morgannwg



Mae’r datblygwyr, Jehu Group, wrthi’n adeiladu 28 cartref pwrpasol newydd i ateb y galw lleol.

 

Brecon Court construction cllrs and JehuWedi’u hadeiladu ar safle’r hen lety gwarchod, bydd y cynllun yn cynnwys naw tŷ â dwy ystafell wely, pedwar cartref â thair ystafell wely a 15 fflat ag un ystafell wely sy’n cael eu cadw ar gyfer pobl hŷn.


Bydd yr holl gartrefi newydd, sy’n cael eu hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu hadeiladu i fodloni ei safonau ar gyfer tai cymdeithasol, gan roi llety i’r bobl yn y gymuned sydd ei angen mwyaf.


Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:

 

“Mae’r datblygiad hwn yn rhan o gynlluniau ehangach y Cyngor i gynyddu ei stoc dai a bodloni’r galw mawr yn lleol am lety o’r math hwn.


 “Cafodd y cynigion ar gyfer y safle eu drafftio ar ôl ymgynghoriad eang â phartïon lleol â diddordeb, a dylai fod o fudd go iawn i’r gymuned.


 “Gall yr ystod o wahanol eiddo sy’n cael eu hadeiladu roi lleoedd cysurus i deuluoedd, parau a phreswylwyr hŷn fyw ynddynt.


 “Bydd y cynllun hefyd yn ailddefnyddio safle segur i ddarparu swyddogaeth bwysig yn yr ardal.”

 

Dywedodd Marc Jehu, Rheolwr Gyfarwyddwr Jehu: 

 

“Rydym wrth ein bodd o gael bod y contractwr ar gyfer datblygiad Brecon Court yn y Barri.

 

"Mae’r cynllun hwn yn un o’r datblygiadau cyntaf fydd yn rhoi hwb i gynlluniau adfywio ehangach y Cyngor, ac rydym yn falch iawn o gael bod yn rhan o hyn a chyflawni’r gwaith ar ran Cyngor Bro Morgannwg.”