Cost of Living Support Icon

 

Blwyddyn yn Mywyd Tref y Barri

Mae'r Oriel Gelf Ganolog yn gartref i’r arddangosfa ‘Blwyddyn ym Mywyd Tref y Barri’ gan y ffotograffydd lleol Kevin Moore ar hyn o bryd.  

  • Dydd Mercher, 22 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg


Mynychodd Maer cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Leighton Rowlands y digwyddiad agoriadol swyddogol, gan groesawu gwesteion i’r oriel a’r arddangosfa.

 

Photograph from exhibitionYno, siaradodd am yr artist a’r gwaith a arddangosir. Dywedodd: “Rydym yn falch o gynnal yr arddangosfa ddiddorol hon a grëwyd gan Kevin...

 

“Mae pob delwedd yn cynnig ei stori ei hun, gan gynnwys rhai hapus, dewr, trist a llawer mwy... gan adael etifeddiaeth barhaol heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.” 

Mae’r lluniau llawn hiraeth yn arddangos bywyd dyddiol pobl wrth eu gwaith, yn ymlacio, hamddena, dysgu a mwynhau. 

 

Maent yn adlewyrchu ar amrywiaeth y gymuned tra’n hel atgofion dros wynebau cyfarwydd, pobl, lleoedd a bywyd yn gyffredinol yn nhref y Barri.

 

Mae’r arddangosfa yn cyd-fynd ag Wythnos Gweithredu ar Ddemensia (20 – 26 Mai), lle cynhelir digwyddiadau ledled y Fro. 

 

Nod Wythnos Gweithredu ar Ddemensia yw creu cymuned sy’n cefnogi ac yn cynnwys y rheiny sy’n

A Year in the Life

 dioddef o ddemensia a’u teuluoedd.  Mae’r Oriel Gelf Ganolog wedi’i chydnabod fel Oriel ‘Demensia Gyfeillgar’ yn ddiweddar.    

 

Mae’r arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 1 Mehefin 2019.  I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r adran Datblygu'r Celfyddydau ar 01446 709805 neu ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk.