Cost of Living Support Icon

 

Bro Radio yn dweud "Shwmae" i ddysgwyr

Mae adran Dysgu Cymraeg Cyngor Bro Morgannwg wedi cydweithio gyda Radio Bro i lansio podlediad Cymraeg newydd.

  • Dydd Iau, 09 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Bydd “Shwmae” yn cael ei chyflwyno gan gyflwynydd brecwast y Fro, Gareth Knight, ac mae wedi ei anelu at ymgysylltu â dysgwyr Cymraeg presennol a rhai newydd.


Bydd dechreuwyr llwyr yn gallu codi iaith sgwrs, yn ogystal â darparu cyfle i ddysgwyr uwch i ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. 


Bydd hefyd yn galluogi’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu dosbarthiadau wythnosol i roi cynnig ar ddysgu. 


Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Bro Morgannwg, Paula Ham: “Mae hwn yn anogaeth gadarnhaol er mwyn denu mwy o bobl i fod yn rhan o nifer gynyddol o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.


“Does dim amheuaeth, projectau fel hyn fydd yn helpu i feithrin cymuned Gymraeg y dyfodol.

 
Ar ddechrau 2019, ymrwymodd Radio Bro i ddarlledu cyfres o bodlediadau wythnosol a misol, yn cwmpasu ystod o bynciau gan gynnwys chwaraeon, iechyd meddwl, y gymuned leol a’r Gymraeg.


Dywedodd Nathan Spackman, Cyfarwyddwr gweithrediadau yn Radio Bro: “Mae’r podlediad yn gyfle gwych i Radio Bro ddatblygu ei gynnwys Cymraeg law yn llaw â’n sioe Gymraeg sydd yn darlledu bob nos Fawrth o 9pm.


“Fel un nad sydd yn siarad Cymraeg, miwnes i fwynhau gwrando ar y ddau bodlediad cyntaf dros benwythnos gŵyl y banc ac rwy’n gobeithio y bydd eraill yn mwynhau dysgu yn eu sgil nhw hefyd.”

 

Mae pob podlediad tua 12 munud o hyd, ac yn cael eu darlledu yn wythnosol. Mae modd ei lawrlwytho am ddim neu wrando arno ar wefan Radio Bro.