Cost of Living Support Icon

 

Menywod dros gant oed yn cael sesiwn bampro!

Yn ddiweddar, trefnodd tîm Gwasanaethau Preswyl Cyngor Bro Morgannwg i grŵp o breswylwyr hŷn gael sesiynau pampro am ddim gan fyfyrwyr lleol.

  • Dydd Llun, 20 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



 Centenarians 2Aeth myfyrwyr Therapïau Cyflenwol o Goleg Caerdydd a’r Fro i ymweld â Chartref Preswyl Porthceri, a gwnaethom gynnal ystod o driniaethau therapiwtig megis masaj i’r dwylo a’r traed.

 

Cyn hyn, roedd llawer o breswylwyr y Cartref – gan gynnwys Mary Bobbett (100 oed) a Beryl Yeandle (102 oed) – heb fwynhau sesiwn bampro erioed o’r blaen.

 

Tra roedd y menywod yn cael cyfle i fwynhau’r ymweliad ac ymlacio, câi’r myfyrwyr Lefel 3 gyfle i ymarfer a mireinio eu sgiliau yn y lleoliad gwerth chweil.

 

Dywedodd Leanne Pile, myfyriwr yn y Coleg: “Roedd yn hyfryd. Roedd y staff a’r preswylwyr yn wych; rhoddon nhw groeso mawr i ni gan wneud yn siŵr ein bod ni’n gyfforddus a chynnig te, coffi a dŵr.

 

“Cawsom gwrdd â phobl wirioneddol ysbrydoledig, gan gynnwys menyw o’r enw Beryl sy’n 102 oed ac yn dal i fwynhau ei bywyd . . a G&T bach bob dydd i’r dim! Y lleoliad gorau erioed!”

 

Centenarians 3

Dywedodd Joanne Strevens, myfyriwr arall: “Am gartref gofal hyfryd. Roedd yr holl breswylwyr i weld yn hapus dros ben ac mae atmosffer lyfli yno.”

Mae aelodau staff Cartref Porthceri wedi diolch yn fawr i’r Coleg a’r myfyrwyr, ac yn benodol wedi sôn am y lles a wnaeth y triniaethau i’r preswylwyr.

 

Dywedodd Marijke Jenkins, sy’n rheoli tîm Cartref Porthceri: “Rydym mor falch bod y myfyrwyr a'r preswylwyr wedi mwynhau'r profiad.

 

“Nid yw pobl byth yn rhy hen i fwynhau profiadau newydd, a gall y rhain fod o fudd i bawb yn y gymuned, a'u hannog i ffynnu yn eu ffordd eu hunain.”