Timau Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â Gweithredu dros Natur y Barri, Coed Cadw ac Ysgol Gynradd Colcot ar gyfer prosiect plannu coed
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i Gweithredu dros Natur y Barri blannu 200 o lasbrennau a 12 o goed ffrwythau tri throedfedd ar dir ger Ysgol Gynradd Colcot.
Fel rhan o brosiect sy’n cynnwys yr ysgol sydd wedi’i ariannu gan Coed Cadw, bydd y fenter yn cynnwys coed bedw, draenen wen, draenen ddu, collen a cherddinen ynghyd â choed afalau, gellyg, eirin a cheirios.
Bydd y coed yn helpu i hidlo llygredd traffig a sŵn i ddisgyblion yr ysgol ac yn amsugno allyriadau CO2 a chreu cynefin i fywyd gwyllt.
Mae digon o le wedi’i adael i sicrhau na fyddant yn amharu ar y llwybr beicio gerllaw.
Gan fod yr ardal eisoes yn cael ei sgubo gan Gyngor Bro Morgannwg, ni fydd y prosiect yn arwain at lawer o gostau ychwanegol, tra bod Gweithredu dros Natur y Barri wedi ymrwymo i gynnal a chadw’r coed am dair blynedd.
Bydd hyn yn cynnwys casglu sbwriel yn yr ardal, plannu coed newydd yn lle rhai marw a gosod cynhalwyr coed.
Dywedodd Colin Smith, Rheolwr Gweithredol Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Mae hwn yn brosiect arbennig sy’n rhoi’r cyfle i blant ysgol gyfrannu at ofalu am ardal yn eu hamgylchedd lleol.
“Bydd y coed hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn o’r ffordd gerllaw ac yn gynefin lle gall bywyd gwyllt fynnu.”
Dywedodd Cadeirydd Gweithredu dros Natur y Barri, Rob Curtis: “Hoffwn ddiolch i bob gwirfoddolwr, gan gynnwys trigolion lleol, a helpodd ac a roddodd rai coed onn i ni hyd yn oed. Bydd y coed hyn o fudd i ddisgyblion Ysgol Colcot a bywyd gwyllt lleol am genedlaethau i ddod.
“Fel cyn-ddisgybl Ysgol Colcot ro’n i’n falch o gael bod yn rhan o’r tîm sydd wedi bod yn gweithio mor galed i helpu i wneud Colcot yn gymuned werddach sy’n lle gwell i fywyd gwyllt.”