Cost of Living Support Icon

 

Arwienydd Wleidyddol Newydd i Gyngor Bro Morgannwg

Mae’r Cynghorydd Neil Moore wedi’i benodi fel Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn dilyn pleidlais yng Nghyfarfod Blynyddol yr awdurdod lleol ar 20 Mai 2019.

  • Dydd Mercher, 22 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg


 

 

Penodwyd Cabinet newydd wedyn gan yr Arweinydd, sydd fel a ganlyn:

  • Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett
  • Aelod Cabinet dros Wasanaethau Tai ac Adeiladau, y Cynghorydd Margaret Wilkinson
  • Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Peter King
  • Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Ben Gray
  • Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer
  • Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio, y Cynghorydd Edward Williams

 

Cllr Neil Moore

 

Dywedodd y Cynghorydd Moore: “Rwy’n falch iawn o arwain gweinyddiaeth sydd â Chabinet sy’n

 cynrychioli pobl y Fro yn llawn ac sy’n gytbwys o ran rhyw a daearyddiaeth.

 

“Mae ein blaenoriaethu’n syml. Rydym eisiau gwarchod pobl a gwasanaethau lleol rhag effaith caledi a sicrhau nad oes yr un ardal o’r Fro yn cael ei gadael ar ôl. 


“Tra ein bod yn gwneud hyn byddwn yn ceisio ymgysylltu’n fwy â phobl leol i sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud ar ddyfodol y cymunedau a’r gwasanaethau mae’r Cyngor yn eu cynnig.”

 Cabinet May 2019

Penodwyd cadeiryddion newydd ar gyfer pedwar o bum pwyllgor craffu’r Cyngor hefyd yn y cyfarfod. Mae’r rhain fel a ganlyn: 

 

  • Perfformiad Corfforaethol ac Adnoddau, y Cynghorydd Mark Wilson

  • Yr Amgylchedd ac Adfywio, y Cynghorydd Bronwen Brooks

  • Byw’n Iach a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Rachel Nugent-Finn

  • Dysgu a Diwylliant, y Cynghorydd Gordon Kemp

 

Bydd cadeirydd ar gyfer yr Pwyllgor Craffu Cartrefi a Chymunedau Diogel yn cael ei benodi yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

Bydd rhestr lawn o gadeiryddion ac is-gadeiryddion ar gyfer y pwyllgorau lled-farnwrol a hyrwyddwyr awdurdod lleol yn cael ei chyhoeddi ar-lein yn www.bromorgannwg.gov.uk yn nes ymlaen yn yr wythnos.