Cost of Living Support Icon

 

Llawr cyntaf Llyfrgell Penarth i gael ei weddnewid

Mae Cyngor Bro Morgannwg ar fin dechrau gwneud gwaith i adfer y tu fewn i Lyfrgell Penarth, yn ogystal â gwella ansawdd y cyfleusterau sydd ar gael.

  • Dydd Mercher, 01 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



penarth library

Mae Cyngor Bro Morgannwg ar fin dechrau gwneud gwaith i adfer y tu fewn i Lyfrgell Penarth, yn ogystal â gwella ansawdd y cyfleusterau sydd ar gael.

 

Bydd y gwaith i lawr cyntaf y llyfrgell yn cynnwys disodli’r carpedi sydd wedi’u difrodi gan ddŵr, a’r plaster ar y wal, yn ogystal ag ail-baentio’r waliau.  Bydd yr ardal yn cael ei hail-drefnu er mwyn gwella’r cyfleusterau astudio, a bydd celfi a silffoedd newydd yn cael eu rhoi yno.  

 

Bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol hefyd yn cael ei wneud yn ystod y gwaith adnewyddu, gan gynnwys creu allanfa i’r to, fel bod y cafnau’n cael eu clirio a’u harchwilio’n gyson.

 

Daw hyn ar ôl i ymchwiliad yn defnyddio drôn ddatgelu bod y cafnau’n llawn sbwriel, ac mae hynny achosodd y difrod dŵr mawr i’r tu fewn i’r llyfrgell.   

 

Mae’r gwaith yn rhan o gynllun ehangach i adnewyddu’r llyfrgell, sy’n golygu y bydd £30,000 yn cael ei fuddsoddi yn y project.   Bydd y gwaith yma’n digwydd yn hwyrach eleni.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, Paula Ham:  “Dechrau yw hyn ar waith adnewyddu angenrheidiol ar Lyfrgell Penarth.

 

“Mae’r llyfrgell yn cynnig nifer o gyfleusterau gwerthfawr i drigolion, yn hen ac ifanc.  Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith adnewyddu’n gwella naws gyffredinol y lle, ac yn ei wneud yn fwy cynhwysol, ac rydym yn annog trigolion i wneud y mwyaf ohono.”

 

Bydd y gwaith yn digwydd rhwng dydd Mawrth 7 Mai a dydd Sadwrn 25 Mai, pan fydd y llawr cyntaf ar gau dros dro.  Yn ystod yr adeg hon ni fydd staff a defnyddwyr yn gallu defnyddio’r ardal na’i stoc o lyfrau.  

 

Atgoffir defnyddwyr y bydd casgliad bach o lyfrau o’r llawr cyntaf yn cael eu symud i’r llawr gwaelod, ac y bydd modd iddyn nhw ddefnyddio adnoddau a stoc llyfrgelloedd eraill y Fro.