Cost of Living Support Icon

 

Rheoliadau Adnabod ceffylau (Cymru)

Ar 12 Chwefror 2019 daeth y Rheoliadau Adnabod Ceffylau i rym yng Nghymru.

  • Dydd Gwener, 03 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg


 

Horse-grazing-in-field

Mae’r rheoliadau a chyfrifoldebau perchnogion ceffylau ledled Cymru, a’r camau y bydd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn eu cymryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ar hyd ardaloedd Pen-y-bont, Caerdydd a’r Fro fel a ganlyn:

 

Trosglwyddo perchnogaeth ceffylau

Rhaid i’r perchennog presennol ddarparu’r pasbort ceffylau ar adeg trosglwyddo’r berchnogaeth. 

 

Cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod yn dilyn trosglwyddo’r berchnogaeth, rhaid i’r perchennog newydd hysbysu’r awdurdod sy’n cyhoeddi’r pasbortau o’r trosglwyddiad a’r manylion.

Pasbort a Microsglodyn

Erbyn 31 Rhagfyr ym mlwyddyn galendr geni’r ceffyl; neu 6 mis wedi geni’r ceffyl (pa un bynnag a ddaw yn gyntaf), rhaid bod y perchennog wedi gwneud cais am basbort ceffylau a bod a microsglodyn wedi ei fewnblannu.

 

Nid oes eithriad ar gael mwyach i geffylau a aned ar neu cyn 30 Mehefin 2009.

 

Rhaid i bob ceffyl sy’n syrthio i’r categori hwn gael microsglodyn wedi ei fewnblannu erbyn 12 Chwefror 2021.

  

Gall archwilydd awdurdodedig o’r Awdurdod Lleol gyflwyno Hysbysiad am drosedd, neu Hysbysiad Cosb Benodedig.  Gallent hefyd ad-ennill yr holl gostau sydd ynghlwm ag achos.

 

Mae’n drosedd gyfreithiol peidio cydymffurfio ag unrhyw Hysbysiad a gaiff ei gyflwyno.  Bydd unrhyw un a gaiff eu canfod yn euog o drosedd yn atebol, ar dderbyn euogfarn, i ddirwy.

 

Yn sgil y rheoliadau newydd bydd swyddogion Awdurdodau lleol yn ymweld â Safleoedd, digwyddiadau ayb. Ac yn asesu cydymffurfiaeth ar draws yr ardaloedd gwasanaeth.

 

Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynghylch y rheoliadau hyn cysylltwch :

  • 0300 123 6696