Cost of Living Support Icon

 

Fforwm 50+ Bro Morgannwg

A oes gennych ddiddordeb yn llesiant y bobl hynny sy’n hŷn na 50 oed, ac yn frwdfrydig dros roi llais i bobl hŷn Bro Morgannwg?  

 

  • Dydd Iau, 23 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



two ladies over 50Os felly, beth am ymuno â Fforwm Strategol 50+ y Fro, grŵp gweithgar sy’n gweithio i gefnogi a hybu anghenion y bobl hynny sy’n hŷn na 50 oed yn y Fro ac ar draws Cymru. 

 

Mae’r Fforwm yn awyddus bob amser i groesawu aelodau newydd ac mae sawl grŵp yn rhan ohono sy’n cwrdd yn rheolaidd i drafod materion pwysig iddynt. 

 

Mae’r rhain yn cynnwys materion iechyd, tai, cludiant a rhai hamddenol hefyd. Yn y grŵp celf, crefft a hamdden er enghraifft, mae aelodau yn mwynhau dysgu am artistiaid a cherddorion lleol, yn ogystal â chael clywed ganddynt. 

 

Ym mis Rhagfyr 2018, arwyddodd y Fforwm Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd gyda Chyngor Bro Morgannwg, sy’n gosod y ffordd y bydd y sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd yn y dyfodol.

 

Mae’n amlygu ac yn cydnabod cyfraniadau’r Fforwm a’r gwaith pwysig a wneir gan Weithrediaeth y Fforwm a’r aelodaeth ehangach.

 

Mae’r Weithrediaeth yn cael ei hethol gan aelodau’r Fforwm ac maent yn cwrdd unwaith y mis i gynllunio digwyddiadau, cael cyflwyniadau ar amrywiaeth eang o bynciau ac ymateb i ymgynghoriadau lleol (gan gynnwys ymgynghoriad ar strategaeth toiledau cyhoeddus y Cyngor yn ddiweddar).

 

Middle aged male trioMae’r cyfarfodydd ar agor i bob aelod o’r Fforwm ac enghreifftiau o’r siaradwyr yn ddiweddar yw Cymdeithas Alzheimer a thîm Diogelwch yn y Cartref Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm, efallai y byddech am fynd i’w wefan newydd. Crëwyd y wefan gan aelodau Fforwm 50+ ac mae’n cyflwyno gwaith ei grwpiau diddordebau, dyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol ac mae hefyd yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau hygyrch yn y Fro.  

 

Gallwch hefyd ddysgu’r diweddaraf am waith y Fforwm drwy ddarllen ei gylchgrawn Herald neu drwy ei ddilyn ar Facebook neu Twitter.

 

OS hoffech drafod gwaith y Fforwm neu fynegi diddordeb mewn ymuno â nhw, cysylltwch â  thîm Strategaeth a Phartneriaeth y Cyngor sy’n helpu i gefnogi eu gwaith.