Cost of Living Support Icon

 

Myfyrwyr y Fro wedi eu dewis ar gyfer rhaglenni haf Yale a Harvard

Mae pedwar disgybl Blwyddyn 12 o Fro Morgannwg wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn rhaglenni haf dwy brifysgol uchel eu parch, Harvard a Yale.

 

  • Dydd Gwener, 10 Mis Mai 2019

    Bro Morgannwg



Seren Group

Jamie Bailey yw un o ddau disgybl o St. Cyres, hefyd Morgan Gamer o Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ac Emma Moaghan o Stanwell.


Daw’r fenter o Rwydwaith Seren LlC, sy’n cynnwys 11 canolfan ledled Cymru. Mae’r Canolfannau’n rhoi gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fyfyrwyr disgleiriaf Cymru i’w helpu i wneud cais i’r Prifysgolion gorau yn y DU ac ym mhedwar ban byd. 


Fel rhan o’r Rhwydwaith Seren mae partneriaethau wedi’u creu i roi cyfleoedd i ddisgyblion Cymru gymryd rhan mewn cynlluniau haf mewn Prifysgolion tramor blaenllaw.


Ymysg y rhain mae Rhaglen Ysgolheigion Byd-eang Ifanc Yale (YYGS) ym Mhrifysgol Yale, sy’n rhaglen haf academaidd o gyfoethogi ac arwain i ddisgyblion uwchradd o bob cwr o’r byd; a Rhaglen Cyn Coleg Ysgol Haf Harvard ym Mhrifysgol Harvard, profiad preswyl trochol, cydweithredol a thrawsnewidiol. 


Eleni, bydd y Rhwydwaith Seren yn ceisio cefnogi 53 o bobl ifanc sy’n mynychu rhaglenni Yale neu Harvard, a chânt eu cyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru.

 
Rhaid i fyfyrwyr Seren sydd am wneud cais am y cynllun fod ym mlwyddyn 12 ac wedi derbyn o leiaf 5 A * mewn TGAU.


Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg, Paula Ham: “Mae’r partneriaethau sydd wedi’u creu yn stori o lwyddiant i’r Rhwydwaith Seren a’r myfyrwyr dan sylw.


“Gyda mynediad i’r rhaglenni hyn byddant yn dod i gysylltiad â chyfoeth o brofiadau sy’n amhrisiadwy i’w datblygiad academaidd. Dymunaf bob llwyddiant iddynt dros yr haf.”


Dywedodd Jamie Bailey o Ysgol St. Cyres: “Dwi’n teimlo’n freintiedig a diolchgar iawn i gael fy newisLogo Seren Network Welsh ar gyfer y rhaglen a chael cymorth parhaus gan y Rhwydwaith Seren. Roedd y broses ymgeisio yn heriol iawn ond yn werth chweil, yn sicr!


“Alla i ddim aros i gwrdd â’r holl bobl newydd. Dwi’n ddiolchgar iawn i gael cyfle mor anhygoel.”