Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cyd-gynnal digwyddiad am ddim ar noson tan gwyllt i gyn-filwyr y Fro

Gwahoddwyd cyn-filwyr a’u teuluoedd i fynd i ddigwyddiad sinema am ddim fel rhan o fenter gan Wasanaeth Cynghori Cyn-filwyr Cyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Nod y noson oedd tynnu sylw cyn-filwyr oddi ar noson Guto Ffowc, sydd yn gallu peri cyn straen, yn enwedig i’r rheiny sydd yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (ASWT) neu anhwylderau gor-bryder.  


Y Gwasnaeth Cynghori Cyn-filwyr a ‘r Neuadd Goffa gynhaliodd y noson ar y cyd, gan ddarparu te, coffi a thamaid i’w fwyta hefyd. Roedd byrddau arddangos yno hefyd gan y Llu Awyr a’r Lleng Brydeinig i gynnig gwybodaeth bellach ar y cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr. 


Bu John, cyn-filwyr a fynychodd y digwyddiad a’i deulu yn canmol gwaith y gwasanaeth:

 

“Cafodd pawb noson dda, roedd fy ŵyr hefyd yn gyfforddus y yr awyrgylch yna a mwynhau chwerthin ar y ffilm gyda phawb arall. Da iawn bawb,” dywedodd.


Mae’r Gwasanaeth Cynghori Cyn-filwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth penodol a di-duedd i Aelodau’r Lluoedd Arfog sydd yn gwasanaethau neu wedi gwasanaethu o fewn Bro Morgannwg. Roedd y digwyddiad y cyntaf o’i fath, gyda’r gobaith y bydd mwy i ddilyn. 


Amcangyfrifir fod hyd at 10% o gyn-filwyr yn dioddef a chyflwr iechyd meddwl megis ASWT. Gall synau, fflachiadau neu hyd yn oed arogleuon danio ymateb o ddychryn yn y rhai sydd yn byw gyda’r cyflwr.


Os carech ragor o wybodaeth ar y gwasanaethau, cymorth a’r digwyddiadau sydd ar gael, cysylltwch ag Abi Warburton ar :

  • 07725704655
  • veteranservice@valeofglamorgan.gov.uk