Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gynradd Dinas Powys yn cynnal perfformiad gwych

Yn ddiweddar, perfformiodd disgyblion Grŵp Shakespeare Ysgol Gynradd Dinas Powys ddetholiad o Tempest, yn rhan o Ŵyl Shakespeare Ysgolion.

 

  • Dydd Mawrth, 26 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Dinas Powys Primary school pupils banner size

 

Dan gyfarwyddyd agos yr athrawes Blwyddyn 3 a’r cyfarwyddwraig ardderchog, Mrs Ryn Harries, perfformiodd y criw blwyddyn 6 y ddrama yng Nghanolfan Glan yr Afon yng Nghasnewydd.  


Yna, cafodd y criw wahoddiad i fynd i gynrychioli Cymru, yn perfformio mewn swper Gala yn Senate House, Prifysgol Llundain. Perfformiodd ugain o fyfyrwyr ‘Cynhyrchiad Fflachmob’ a chael canmoliaeth gref amdano. 

Meddai’r Pennaeth, Julie Thompson, wrth drafod eu hymdrechion: “Rydym yn hynod falch o bawb wnaeth gymryd rhan yn y sioeau. Mae cynrychioli eu gwlad yn y celfyddydau yn anrhydedd wirioneddol, gan ddarparu profiad o oes.”