Cost of Living Support Icon

 

Astudiaeth marina ar gyfer Dociau'r Barri 

Gallai cychod bach a chychod hwylio fod yn angori yn Noc y Barri yn y dyfodol ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg a Chymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP) gomisiynu The Marine Group i ymchwilio i’r posibilrwydd o greu Marina.

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Tachwedd 2019

    Bro Morgannwg



Looking out over Barry Waterfront banner sizeMae ardal y Doc, sy’n eiddo i ABP ac sy’n cael ei rheoli ganddo, yn gadael llongau cargo i mewn ac allan o’r doc ar hyn o bryd, ac yn cynnig lle i fusnesau. Mae hefyd yn gartref i Ganolfan Gweithgareddau Dŵr Gymunedol y Barri.


Mae’r Cyngor ac ABP wedi cyd-gomisiynu The Marine Group i gynnal astudiaeth o ddichonoldeb a fydd yn ymchwilio i ymarferoldeb technegol a masnachol cychod bach a chychod hwylio yn hwylio i mewn i’r doc ac angori yno. Bydd hefyd yn edrych ar y manteision economaidd a’r heriau a ddeuai gyda Marina.

“Mae’r astudiaeth hon yn gyfle gwych i ni edrych yn fanylach ar greu Marina yn y Barri. Os yw’n realistig, gallai ychwanegu at dwristiaeth a hamdden y Barri a chynnig swyddi lleol. Mae rhai mentrau adfywio cyffrous iawn yn digwydd yn ardal y Barri, a gallai’r astudiaeth hon fod yn gam mawr ymlaen. Ry’n ni’n edrych ‘mlaen at weithio gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain a The Marine Group i ystyried y prosiect.” - y Cyng. Lis Burnett, yr Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg.


Mae gan The Marine Group, y mae eu portffolio yn cynnwys Caerdydd, Aberystwyth, y Felinheli a Phorth Tywyn, hanes arbennig o archwilio, cyflawni a gweithredu Marinas o safon uchel yng Nghymru.

 

“Ry’n ni wrth ein bodd o gael ein penodi i helpu gyda’r astudiaeth o ddichonoldeb ar gyfer marina gwasanaeth llawn yng Nglannau’r Barri. Bydd ein hymgynghorwyr arbenigol o Waterco, Pebble a Kaymac, yn cydweithio gyda’n harbenigwyr rheoli harbwr ein hunain, yn cynnig yr opsiynau gorau posibl i gynnal y momentwm a’r llwyddiant yn y Barri. Mae gan y Barri’r potensial i wneud cyfraniad mawr at ddatblygiad economaidd y Gymru arfordirol, a byddai’n ychwanegiad i’w groesau i’r rhwydwaith o farinas yng Nghymru a thu hwnt.” - Chris Odling-Smee, Cyfarwyddwr Marine Group.


“Ry’n ni wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ar y prosiect hwn, sydd â’r potensial i droi’r Barri’n farina blaenllaw drwy wneud defnydd o’r hen ddoc gweithiol.  Gallai alluogi gweithgareddau hamdden a marina, a fydd yn helpu i roi hwb pellach i dwristiaeth.  Gallai’r marina ategu gweithgareddau dŵr presennol ym Mhorthladd y Barri ABP ac, os yw’n ymarferol, gallai ychwanegu at y buddsoddiad a’r adfywio economaidd sylweddol sydd eisoes wedi bod mor llwyddiannus yng Nglannau’r Barri.” - Dywedodd Andrew Harston, Cyfarwyddwr Rhanbarthol ABP.

Mae dyfnder o hanes yn Noc y Barri - hon oedd prif borthladd allforio glo gwledydd Prydain ‘slawer dydd. Heddiw, mae gwaith adfywio’r glannau wedi trawsnewid yr ardal, gyda datblygiad tai â 2,000 o gartrefi yn dod at ei derfyn. Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar y Sied Nwyddau £9 miliwn yn yr Ardal Arloesi, a fydd yn cynnwys bwytai, gofod gweithio a thai newydd.


Cynhelir ymgynghoriadau dros y misoedd nesaf gyda rhanddeiliaid allweddol o gwmpas y safle i helpu i lywio’r achos busnes, gyda’r astudiaeth yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn.