Cost of Living Support Icon

 

Penarth i gael cynllun rhannu beiciau trydan cyhoeddus cyntaf Cymru

Mae Cyngor Mro Morgannwg wedi neilltuo cyllid i dreialu’r cynllun rhannu beiciau trydan llawn cyntaf.

 

  • Dydd Iau, 31 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Nextbike share scheme banner sizeYn dilyn llwyddiant cynllun llogi beiciau Nextbike yng Nghaerdydd, sydd wedi cofnodi bod beiciau wedi’u rhentu mwy na 548,000 o weithiau ers iddo gael ei lansio yn 2018, mae Cyngor y Fro wedi derbyn ceisiadau am system debyg.


Mewn ymateb i’r ceisiadau hyn, yn ogystal â chydnabod y manteision posibl ar gyfer y gymuned a’r amgylchedd, bydd Nextbike, darparwr cynllun rhannu beiciau blaenllaw y DU, yn gweithredu’r project.


Mae’r sefydliad am osod 50 beic trydan ar sawl gorsaf ym Mhenarth. Tra bo lleoliadau posibl wedi’u nodi, mae’r Cyngor hefyd yn gwahodd preswylwyr i roi eu hawgrymiadau. Mae angen digon o le ar gyfer llwytho a dadlwytho beiciau, yn ogystal â chysylltiadau â ffynonellau pŵer a gwelededd i’r cyhoedd.  


Caiff disgyblion ysgolion lleol eu gwahodd i gyflwyno dyluniadau ar gyfer gorsafoedd a phaneli ochr y beiciau, a chaiff mecanigs lleol o’r elusen Pedal Power – sydd eisioes yn gwasanaethu’r cynllun yng Nghaerdydd-  yn helpu gydag atgyweirio a chynnal a cadw’r fflyd.


Yn ogystal, mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Chyngor Caerdydd i greu system ddidrafferth a fydd yn cysylltu’r ddau gynllun. Bydd hyn yn sicrhau bod aelodau’n gallu teithio rhwng y ddau leoliad a dychwelyd y beiciau iddynt.


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cyng. Peter King: 


“Wedi datgan argyfwng hinsawdd ynghynt eleni, mae’n hanfodol ein bod ni, fel Cyngor, yn parhau i gefnogi dulliau teithio gweithredol a chynaliadwy. Mae’r beiciau yn syml eu defnyddio ac mae’r tariffau’n dueddol o fod yn rhatach na theithio mewn car, ar fws neu ar drên. 


“Bydd y fenter o fudd i iechyd a lles ein cymudwyr a thrigolion, yn ogystal â bod yn ased i dwristiaeth yn yr ardal. Os bydd hyn yn llwyddiant, rydym yn gobeithio y caiff y cynllun ei ymestyn ymhellach.”

Dywedodd Krysia Solheim, cyfarwyddwr rheoli Nextbike UK, ei bod wedi’i chyffroi ynghylch dod â beiciau trydan i Gymru:


“Gan fod Cyngor Bro Morgannwg yn meddwl mewn dull blaengar, bydd Penarth yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o arwain y chwyldro rhannu beiciau yng Nghymru.

 
“Rydym yn gwybod o’n hymchwil bod llawer o gymudwyr eisoes yn beicio o Benarth i Gaerdydd. Bydd beiciau trydan yn gwneud y daith honno’n haws ac yn gyflymach nag o’r blaen, a fydd gobeithio yn annog pobl i newid o bedair olwyn i ddwy.


“Mae beiciau trydan nid yn unig yn ffordd o leihau amseroedd teithio a hwyluso beicio ar fryniau serth, maen nhw hefyd yn ffordd wych o gael pobl o bob gallu a lefel ffitrwydd i feicio. Mae’n adeg gyffrous i Benarth.”

Mae’r project Nextbike yn cael ei ariannu gan gyfraniadau trafnidiaeth gynaliadwy Adran 106. Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun, neu i awgrymu lleoliad, gweler ein tudalen ymgynhoriad.

 

Ymgynghoriad cynllun nextbike Penarth