Cost of Living Support Icon

 

Rydym Ni Hefyd yn Creu Celf: Arddangosfa Cymdeithas Gelf Gyfoes Cymru yn Oriel Gelf Ganolog

Mae’r Oriel Gelf Ganolog, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd yn arddangos gwaith gan aelodau Gymdeithas Gelf Gyfoes Cymru (CGGC).

 

  • Dydd Iau, 31 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



We Make Art Too banner sizeMae’r arddangosfa’n cynnwys dros 100 o waith celf gwreiddiol ar sawl ffurf, o baentiadau, tecstilau, print, cerfluniau a gwydr. Mae dros 40 o artistiaid CGGC wedi cyfrannu at yr arddangosfa, yn artistiaid proffesiynol a newydd, ac mae llawer ohonynt yn lleol i’r Fro. 

“Mae’r sioe yn gyfle gwych i artistiaid lleol a Chymreig i ddangos eu gwaith.

 

“Mae CGGC yn sefydliad elusennol sy’n gweithio tuag at hyrwyddo dealltwriaeth a chydnabyddiaeth y celfyddydau gweledol yng Ngymru. Maent yn aml yn trefnu darlithoedd, casgliadau ac arddangosfeydd yn y DU a thramor ac rydym yn falch iawn bod ein oriel ni’n rhan o’r peth.” - Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer.

 

Bydd Rydym Ni Hefyd yn Creu Celf ar agor tan dydd Sadwrn 16 Tachwedd, a bydd llawer o waith celf ar werth. Bydd canran o’r elw yn mynd at CGGC. Mae’r oriel yn rhedeg cynllun Casglwyr Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n helpu i wneud gwaith celf yn fforddiadwy i’r cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

  • www.valeofglamorgan.gov.uk/artcentral