Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn ymuno â sefydliadau'r sector cyhoeddus wrth ymrwymo i siarter teithio llesol 

Cynhaliodd Cyngor Bro Morgannwg lansiad Siarter Teithio Llesol i Staff a lofnodwyd gan wyth sefydliad blaenllaw y sector cyhoeddus o ledled y Sir.

 

  • Dydd Mawrth, 22 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



staffhealthytravel banner sizeYn y Swyddfeydd Dinesig, cytunodd y Cyngor, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Maes Awyr Caerdydd, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Gwasanaethau Carchar a Phrawf EM, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru i helpu staff ac ymwelwyr i deithio i’w safleoedd mewn ffordd gynaliadwy. 


Trwy 14 cam gweithredu uchelgeisiol, mae’r siarter yn hybu cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn.


Mae’r camau’n cynnwys sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr teithio cynaliadwy, datblygu ymgyrchoedd cyfathrebu targedig i staff, cynnig a hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith a chynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio fideo-gynadledda ar gyfer cyfarfodydd i leihau nifer y teithiau y mae angen i staff eu gwneud rhwng safleoedd.


Rhyngddynt, bydd y sefydliadau’n ymrwymo i leihau cyfran y teithiau mewn ceir i ac o’r gwaith o 62% i 52%, cynyddu cyfran y staff sy’n beicio i’r gwaith bob wythnos o 14% i 23% a chynyddu cyfran y cerbydau a ddefnyddir yn ystod y dydd sy’n gerbydau hybrid y gellir eu plygio i mewn neu gerbydau gwbl drydanol o 1% i 3% erbyn 2022.  


Trwy weithio gyda’i gilydd, nod y sefydliadau yw cynyddu cyfrann y teithiau a wneir i weithleoedd ac yn ôl sy’n gynaliadwy.


Mae’r sector cyhoeddus yn y Fro yn cyflogi dros un o bob pedwar o oedolion sy’n gweithio, ddros 15,000 o bobl, felly gall yr ymrwymiad hyn gael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr amgylchedd yn ogystal â buddion iechyd cysylltiedig.


Mae lansio’r siarter hon yn dod ar ôl i’r Cyngor ymuno ag eraill i ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd ym mis Gorffennaf yn dilyn darganfyddiadau Panel Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd.

 

"Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â materion amgylcheddol a hyrwyddo dewisiadau gwyrddach, mwy cynaliadwy o ran ffordd o fyw. I’r diben hwn, rydym yn falch iawn o lofnodi i’r siarter hon, sy’n gwneud teithio actif, cynaliadwy yn haws.


“Gyda thystiolaeth o newid yn yr hinsawdd yn mynd yn fwyfwy cymhellol, mae angen i ni i gyd wneud rhagor i ddiogelu ein planed ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud ein rhan fel Awdurdod Lleol. Yn ddiweddar, gosodom nifer o ffynhonnau dŵr mewn parciau a dosbarthom boteli dŵr ailddefnyddadwy mewn ymdrech i leihau plastigau untro. Bydd disgyblion Ysgol Gynradd Colcot yn plannu 200 o lasbrennau a 12 o goed ffrwythau 3 troedfedd ar dir ger yr ysgol mewn prosiect gyda Gweithredu Dros Natur y Barri a Coed Cadw." - Cyng. Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg.


“Mae cynyddu nifer y teithiau a wneir ar droed, ar feic ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn hanfodol i wella iechyd a lles corfforol a meddyliol ein dinasyddion, a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

 

"Mae’r Bwrdd Iechyd yn cefnogi’r Siarter yn Llwyr ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno gwasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer Ysbyty’r Brifysgol Llandochau, ac mae ganddo nifer o fentrau i gefnogi staff sy’n dewis beicio.” - Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus dros BIP Caerdydd a’r Fro.