Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd y Cyngor yn annerch arnweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ar Ddiwrnod Gwisgo Coch

Anerchodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Neil Moore, gydweithwyr ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn ddiweddar i nodi’r Diwrnod Gwisgo Coch, ac fe addawodd gefnogaeth gan y Cyngor i ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.

 

  • Dydd Mercher, 23 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Wear Red Day Oct 2019 banner sizeMae’r digwyddiad bellach yn ei bumed flwyddyn, ac mae’n nodi diwrnod o weithredu i annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch i helpu i godi ymwybyddiaeth am hiliaeth ac i wneud safiad yn ei gwrthwynebu. Gwahoddwyd staff ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus oedd yng nghyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gymryd rhan. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Moore: “Rydym yn sefyll yma heddiw oherwydd, yn anffodus mae gwahaniaethu yn digwydd o hyd, er gwaethaf y ffaith bod Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn gwneud gwaith gwych wrth godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn.

 

“Fel Cyngor, rydyn ni'n croesawu amrywiaeth, ac mae gwerthoedd fel cydraddoldeb a pharchu eraill yn ganolog i'n hethos. Unwaith eto heddiw, rydym yn addo ein cefnogaeth i'r sefydliad pwysig hwn ac yn mynegi ein diolch am y gwaith a wnânt i fynd i'r afael â'r hyn sy'n broblem hyll.

 

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru wedi gweld cynnydd mewn agweddau hiliol a stereoteipio negyddol sy'n digwydd yn y gymdeithas ac hefyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, felly mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn parhau i fod mor berthnasol ag erioed. Byddwn yn sefyll law yn llaw nes bydd hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu yn cael eu dileu yn ein cymdeithas. ”

Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i dechrau gweithio gyda’r elusen, gan ariannu eu gweithdai ers 2008. Maen nhw wedi parhau i ddarparu’r sesiynau hyn bob blwyddyn ers hynny. Yn 2017/18 cynhaliodd yr elusen 35 o weithdai mewn 17 o ysgolion y Fro, gan gyrraedd 1235 o ddisgyblion. 

 

Mae adborth am y sesiynau wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda disgyblion ac athrawon yn dweud bod mwy o ddealltwriaeth o hiliaeth yn eu sgil. 

 

Dywedodd un athro o’r Fro: “Mae disgyblion yn fwy hyderus yn defnyddio’r termau cywir ac maen nhw wedi dysgu gwersi gwerthfawr ynghylch stereoteipio a barnu ar sail pryd a gwedd.”