Cost of Living Support Icon

 

Cynnig dwy ysgol newydd yn y Bont-Faen

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig ateb y galw sy’n cynyddu am leoedd ysgol yn y Bont-faen trwy fuddsoddi mewn dau adeilad ysgol gynradd newydd yn rhan o broject â sawl cam.

 

  • Dydd Gwener, 25 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Bydd y cam cyntaf yn cynnwys defnyddio £7 miliwn i ddyblygu capasiti lleoedd cynradd cyfrwng Saesneg trwy adeiladu adeilad ysgol gynradd â 420 lle ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen. 

 

Yn rhan o’r project hwn, byddai Ysgol Gyfun y Bont-faen yn dod yn ysgol 3-19 oed a byddai staff a disgyblion Ysgol Gynradd y Bont-faen yn symud i’r ysgol newydd. Gyda model 3-19 oed, byddai disgyblion yn symud yn awtomatig o addysg gynradd i addysg uwchradd heb angen wneud cais am le ysgol uwchradd.

 

Cowbridge Comprehensive School

 

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y cynigion ar 4 Tachwedd ac os cânt eu cymeradwyo, bydd ymgynghoriad statudol yn dechrau ar 18 Tachwedd fydd yn cynnig i staff, rhieni a thrigolion gyfle i ymateb i’r cynigion hyn. 


Byddai’r ail gam yn cynnwys ceisio mynd i’r afael â’r angen hirdymor am fwy o leoedd ysgol gynradd Cymraeg gan gyfrannu’n fwy at darged ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 


Byddai’r cynnig, a gaiff ei ystyried yn fanylach gan y Cabinet yn y dyfodol, yn cynnwys Ysgol Iolo Morganwg yn symud i adeilad Ysgolion yr 21ain Ganrif newudd â 420 lle yn rhywle arall yn y Bont-faen, gan nad oes modd estyn ar y safle cyfredol. 


Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett:

“Mae’n wych gweld mwy o fuddsoddi yn nyfodol addysg ym Mro Morgannwg. Mae gennym hanes llwyddiannus o godi adeiladau Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd nid yn unig yn addas at y diben ond hefyd i genedlaethau’r dyfodol.

 
“Os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo, bydd gan ddisgyblion yn y Bont-faen, boed iddynt fynychu Ysgol Gynradd y Bont-faen neu Ysgol Iolo Morganwg, fynediad at rai o’r cyfleusterau addysg gorau yng Nghymru.”

Caiff mwy o wybodaeth ei rhyddhau gan y Cyngor os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion ar gyfer ymgynghoriad ar 4 Tachwedd.