Cost of Living Support Icon

 

Gwaith yn dechrau ar Ysgol Uwchradd newydd Whitmore

Ymunodd llwyth o westeion â’r Pennaeth Gweithredol, Vince Brown ar gyfer Seremoni Torri’r Dywarchen yn Ysgol Uwchradd Whitmore.

 

  • Dydd Iau, 24 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg


 

 Whitmore-School-Turf

 

Roedd y digwyddiad yn gychwyn i brosiect gwerth £30.5 miliwn i drawsnewid yr ysgol.

 

Dan raglen Ysgolion y 21ain Ganrif y Cyngor, partneriaeth â Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys uwchraddio seilwaith addysg ledled y Fro, caiff y safle ysgol presennol ei drawsnewid yn sylweddol.

 

Gyda lle i 1,100 disgybl, bydd y gwaith, a wneir gan Morgan Sindall Construction, yn helpu i greu amgylchedd dysgu tra fodern gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf.

 

Bydd y gofod addysgu ar draws tri llawr a bydd 70 ystafell ddosbarth gyffredinol, dwy stiwdio ddrama a gweithgareddau ar safle 11,000-metr.Bydd ystafell arbenigol hefyd yn helpu i gynorthwyo myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Mae’r cyfleusterau chwaraeon dan do ac awyr agored yn rhan o’r datblygiad ac maent yn cynnwys cae bob tywydd a chwrt gemau aml-ddefnydd yn ogystal ag iard ar gyfer dysgu mewn grŵp a defnydd anffurfiol. 

 

Bydd stiwdio gerddoriaeth hefyd, gyda’r offer diweddaraf, neuadd aml-bwrpas gyda seddau ac ardal fwyta fawr. 

 

Bydd staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r adeilad newydd ar gyfer mis Medi 2021 er mwyn dymchwel yr adeiladau presennol a chreu cyfleusterau chwaraeon newydd ac mae disgwyl cwblhau’r project erbyn y gwanwyn 2022. 

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg Cynghorydd Neil Moore:

“Bydd yr ysgol newydd gyda’i chyfleusterau cyfoes yn rhoi’r llwyfan gorau bosibl i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Whitmore i lwyddo.  

 

“Y datblygiad mawr sy’n digwydd yn Ysgol Uwchradd Whitmore yw’r diweddaraf mewn cyfres eang o waith sy’n digwydd dan raglen ysgolion yr 21ain ganrif yw’r mwyaf uchelgeisiol a fu erioed yn y Fro.”

Mewn rhan arall yn y Fro, caiff ysgol gwbl newydd ei hadeiladu yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre, gan gynnwys neuadd chwaraeon pedwar cwrt, gofod perfformio, amgylcheddau dysgu arloesol, ardaloedd rhandir a chae hoci bob tywydd newydd.

 

Bydd addysg uwchradd gyfrwng Cymraeg hefyd yn manteisio gan fod Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar fin cael gwaith gwella ac ehangu mawr hefyd.

 

Mae hyn yn dilyn gwaith diweddar arall i adeiladu cymunedau fel Cymuned Ddysgu newydd Llanilltud Fawr a Chymuned Ddysgu Penarth, sydd wedi ennill amryw wobrau.