Cost of Living Support Icon

 

Lansio cynllun benthyca tabled cyntaf Cymru

Yn ddiweddar lansiodd Llyfrgell Llanilltud Fawr gynllun benthyca dyfeisiau tabled cyntaf Cymru a fydd yn gweld llyfrgelloedd y Fro yn benthyca iPads â 4G i’w haelodau.

 

  • Dydd Mercher, 30 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Roy Chappell tablet loaner banner sizeMae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi’r project, gyda’r gobaith y bydd yn helpu i fynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol a gwella llythrennedd digidol, yn benodol ymysg yr henoed, pobl anabl, a’r rheiny sy’n ennill incwm isel neu’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. 


Aeth yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Ben Gray, i’r digwyddiad. 


“Rydyn ni’n ffodus iawn i gael cymuned llyfrgell mor weithgar yn y Fro. Bydd y project arloesol hwn yn ased gwych arall i’n cymunedau, gydag oddeutu 45,000 o drigolion yn Fro yn gymwys i fanteisio arno," dywedodd.

 

“Mae mwy a mwy o wasanaethau’n cael eu darparu’n ‘ddigidol yn awtomatig’, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn ein cymunedau sydd mewn perygl o gael eu hallgáu’n ddigidol. Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle i fynd i’r afael â’r rhaniad digidol hwn ac i helpu ein trigolion i ddefnyddio’r rhyngrwyd.”


Mae'r dyfeisiau tabled yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau defnyddiol megis gwasanaethau llyfrgell ar-lein, appiau iechyd a llesiant, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymunedol. 

 
Ymhlith y cyntaf i gofrestru ar gyfer y cynllun roedd y preswylydd lleol Roy Chappell, awdur brwd sy’n defnyddio’r llyfrgell yn rheolaidd, a Gareth Hughes, Hyrwyddwr Digidol gwirfoddol y Fro. 

 

Mae Gareth yn cefnogi’r cyhoedd gydag ymholiadau cyfrifiadurol yn sesiynau Galw Heibio Digidol llyfrgell Penarth.

 

“Fel Hyrwyddwr Digidol, bydd y cynllun hwn yn fy helpu yn fy rôl, gan y byddaf yn fwy gwybodus ac mewn gwell sefyllfa i gefnogi fy nghleientiaid nawr bod gen i fynediad i iPad.," dywedodd.


“Bydd hefyd yn helpu’r gymuned ehangach- na ddylai oedran, anabledd neu arian fod yn rhwystr i gyrchu technoleg. Bydd menter fel hon yn helpu i fynd i'r afael â llawer o broblemau sy'n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae'n ffordd i bobl gadw'n brysur, dysgu rhywbeth newydd, a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu - mae'n achubiaeth i'r byd y tu allan.”


Mae’r rhaglen benthyca dyfeisiau llechen yn cael ei harwain gan Gymdeithas Dai Newydd a Chymunedau Digidol Cymru gydag arian a dderbyniwyd drwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020. Ariennir hwn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae Hale Construction a WK Plasterers hefyd yn cefnogi’r cynllun..