Cost of Living Support Icon

 

Ffordd newydd ar hyd Lôn Pum Milltir yn agor yn swyddogol

Ymunodd Ken Skates AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, â Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, i agor yr A4226 newydd, a elwir yn lleol yn Lôn Pum Milltir.

 

  • Dydd Mawrth, 15 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



5ML group photo banner sizeDrwy gyd-brosiect a welodd buddsoddiad o fwy nag £20 miliwn, bydd y llwybr newydd, sy’n rhedeg o gyffordd Sycamore Cross yr A48 i gylchfan Weycock Cross yn y Barri, yn fwy diogel na’r hen ffordd ac yn cyflymu eich taith. 


Mae’r cynllun hefyd yn dod â manteision amgylcheddol pwysig, gydag amrywiaeth o blanhigion ar hyd y llwybr yn creu coridor ecolegol. 


I wella diogelwch ac annog dulliau teithio mwy actif, mae’r cynllun yn cynnwys rhwydwaith beicio gwell gyda llwybrau beicio a cherdded pwrpasol a llwybr ceffylau i’r rheini sy’n mwynhau marchogaeth. 


Mae’r ffordd newydd yn osgoi adran ganolog droellog yr hen ffordd, yn draenio’n well ac yn cynnig llwybr mwy uniongyrchol o lawer rhwng yr A48 yn y gogledd i dref y Barri ar yr arfordir.


“Dwi wrth fy modd o gyhoeddi bod y cynllun hwn wedi’i gwblhau, ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae’n welliant mawr ar ddarn prysur o’n rhwydwaith priffyrdd.


“Mae’r ffordd hon wedi’i gwella’n aruthrol ac yn cynnig llwybr cyflymach a mwy diogel rhwng y Barri a’r A48 a fydd o fudd i lawer o drigolion y Fro.” - Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.


“Bydd y gwelliannau hyn i Lôn Pum Milltir yn dod â manteision gwirioneddol ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu’r prosiect.


“Mae’r lleoliad yn golygu y bydd yn gwella mynediad i gyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal ac, yn hanfodol, ochr yn ochr â’r llwybr cerdded a’r llwybr beicio, yn cynnig llwybr mwy diogel ar gyfer teithio llesol wrth i ni weithio tuag at ymrwymiadau'r Ddeddf Teithio Llesol.” - Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth. 


Bydd rhannau o’r hen ffordd yn aros ar agor, wedi’u cysylltu â’r un newydd drwy dair cyffordd i alluogi mynediad i Ddyffryn, Moulton a Walterston.

 

 

New Five Mile Lane 2 (small)
New Five Mile Lane (small)