Cost of Living Support Icon

 

Trigolion STAR yn dathlu eu pod cymunedol newydd

Mae pod cymunedol newydd sbon wedi’i greu yn St Luke’s Avenue gan Gyngor Bro Morgannwg i grŵp o drigolion Penarth ei ddefnyddio.

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



outside the pod banner size
Mae aelodau Cymdeithas Trigolion STAR yn byw yn ardal  St Luke’s Avenue, St. Paul’s Avenue, St. Peter’s Road a St. James’ Court yn y dre. 


Doedd dim trydan na dŵr yn y pod blaenorol, ac roedd wedi dadfeilio, felly roedd angen cyfleuster newydd ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol. 


Yn y pod newydd mae cyfleusterau cegin a thŷ bach, felly bydd modd caniatáu cynnal ystod ehangach o weithgareddau, a gobeithio bydd Wi-Fi yn cael ei osod yn fuan, a fydd yn galluogi trigolion lleol i ddefnyddio’r rhyngrwyd. 


Roedd y Cynghorwyr Lleol Mike Wilson a Lis Burnett ymhlith y rhai a aeth i’r diwrnod agor y pod, ynghyd â Phennaeth Tai’r Cyngor, Mike Ingram. 


“Mae adeiladau fel y rhain yn chwarae rhan allweddol yn y gymuned, gan gynnig lle i drigolion gyfarfod a chynnal digwyddiadau.” 


“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cynnig pod newydd i drigolion lleol, gyda chyfleusterau newydd sbon, ac rwy’n siŵr y bydd cymdeithas y trigolion yn trefnu ystod o weithgareddau’n fuan.” - Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, y Cynghorydd Lis Burnett.

Gofynnwyd i bobl ifanc helpu i ddylunio murlun ar gyfer y pod a bydd yr ardal o gwmpas yn cael ei dirlunio i wella’i olwg. 


Bydd y sesiynau yn y pod yn cynnwys:

  • Cynhwysiant Digidol

  • Cyflogaeth a Hyfforddiant

  • Iechyd a Llesiant

  • Cyngor ar arian a chadw at gyllideb


 “Roedd ein pod blaenorol yn hen iawn a dim ond lle i 12 i 15 o bobl oedd ynddo. Doedd dim pŵer na dŵr felly roedd rhaid i ni ferwi dŵr gartref i wneud te a choffi. 


“Mae sinc a microdon yn yr un newydd, ac rydym am gael oergell. Mae’n gallu dal hyd at 30 o bobl ac mae’r plant yn mynd i helpu i’w baentio. Mae’n cymaint gwell ac rydym yn falch iawn.” - Gina Doyle, Cymdeithas Trigolion STAR.