Cost of Living Support Icon

 

Cynllyn Benthyca Tabled y Fro i helpu mynd i'r afael ag allgau cymdeithasol a gwella llythrennedd digidol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi Cynllun Benthyca Tabled newydd, a fydd yn gweld Gwasanaethau Llyfrgell Bro Morgannwg yn lansio gwasanaeth benthyca tabled cyntaf Cymru ar gyfer ei aelodau ledled y sir.

 

  • Dydd Gwener, 04 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Tablet loan scheme image banner size

 

Caiff y prosiect ei lansio ar ddydd Llun 28 Hydref, gyda’r gobaith o frwydro yn erbyn allgau cymdeithasol a gwella llythrennedd digidol drwy alluogi aelodau i fenthyca iPads 4G.


Bydd y tabledi yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau defnyddiol megis gwasanaethau llyfrgell ar-lein, apiau iechyd a llesiant, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau cymunedol. Credir bod tua 45,000 o aelodau llyfrgell yn gymwys ac yn gallu elwa o’r gwasanaeth. Bydd holl lyfrgelloedd Bro Morgannwg yn cymryd rhan yn y cynllun.


Mae’r rhaglen benthyca yn cael ei harwain gan Newydd Housing Association a Chymunedau Digidol Cymru gydag arian a dderbyniwyd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Ariennir hwn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae Cyngor Bro Morgannwg, Newydd Housing Association, Hale Construction a WK Plasterers ymhlith y rheini hefyd yn cefnogi’r cynllun. 


“Nid oes gan lawer o bobl ledled Bro Morgannwg fynediad rheolaidd i’r rhyngrwyd ac o ganlyniad maent mewn sefyllfa pan fônt wedi’u heithrio o gyfoeth o adnoddau a gwasanaethau hanfodol. Mae’r project arloesol hwn yn helpu aelodau llyfrgell i fenthyca iPads mor hawdd ac y gallant fenthyca llyfrau.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd y project yn helpu’r rheiny sydd fwyaf angen mynediad i’r rhyngrwyd a thechnoleg.” - y Cyng. Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.