Cost of Living Support Icon

 

Gwaith yn dechrau yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Cynhaliwyd seremoni i dorri’r dywarchen yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg i nodi dechrau’r gwaith ehangu.

 

  • Dydd Gwener, 04 Mis Hydref 2019

    Bro Morgannwg



Group shot turf cut banner size edit

 

Ymunodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio â llawer iawn o westeion yn yr ysgol i nodi’r achlysur.


Yn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, bydd y project yn cynnwys adeiladu bloc dylunio a thechnoleg newydd, bloc chwaraeon a TG, ardal gemau aml-ddefnydd gyda chwe llain darmac a chae 3G bob tywydd.


Bydd ardal dderbynfa newydd a bloc mynediad hefyd yn cael eu hadeiladu yn ogystal ag ystafell blanhigion ac ardal codi a gollwng bysus newydd.


Bydd y cyfleusterau newydd hyn yn golygu bod capasiti’r ysgol yn cynyddu gan 299, o 1,361 i 1,660.


Bydd y cae newydd ar agor tan 10pm at ddibenion cymunedol. 


“Rwy’n falch iawn bod y gwaith wedi dechrau ar y project gwych hwn, fydd yn caniatáu i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ddod yn ysgol fodern iawn gyda chyfleusterau penigamp.


“Dyma’r cynllun cyntaf mewn rhaglen waith uchelgeisiol iawn fydd yn trawsffurfio seilwaith addysgol ledled y Fro.


“Bydd disgyblion a chymunedau’r Fro yn elwa’n ofnadwy ar y buddsoddiad sylweddol hwn i adeiladau a chyfleusterau ysgol penigamp.” - y Cynghorydd Burnett.