Cost of Living Support Icon

 

Anogir preswylwyr i adrodd am ddefnydd cerbydau oddi ar y ffordd yn y Fro

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cefnogi apêl a wnaed gan Bartneriaeth Bro Ddiogelach er mwyn i breswylwyr adrodd am ddigwyddiadau o gerbydau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio yn y gymuned.

 

  • Dydd Mercher, 04 Mis Medi 2019

    Bro Morgannwg



Off-road vehicles banner sizeMae hyn yn dilyn nifer o gwynion ynglŷn â defnydd beiciau oddi ar y ffordd a beiciau cwad, gyda phryder penodol ar gyfer plant ifanc yn eistedd yng nghôl y gyrwyr. 


Mae’r Bartneriaeth yn atgoffa preswylwyr bod y cerbydau canlynol wedi'u dosbarthu fel rhai nad ydynt yn addas i'w defnyddio ar ffyrdd neu balmentydd: Beiciau cwad, sgwteri a pheiriannau bach sydd ag injans petrol, mini moduron a go peds a gaiff eu pweru gan fodur trydan. Nid yw'r mwyafrif yn cwrdd â'r safonau diogelwch ffyrdd llym sy'n ofynnol i unrhyw gerbyd modur yrru ar y briffordd gyhoeddus.

 

Nid yw beiciau modur chwaith yn addas i'w defnyddio ar balmentydd.

 

Nid yw maint a chyflymder y beic (gan gynnwys y rhai a ddyluniwyd ar gyfer plant) yn rhyddhadau rhag y cyfreithiau traffig. Ar hynny, gall beiciau ond cario teithwyr os cawsant eu dylunio i wneud hynny a chanddynt y nifer gywir o seddau i gymryd y gyrrwr a'r teithwyr.  Mae’n drosedd i’r gyrrwr fod â phlentyn neu deithiwr ar ei gôl neu y tu ôl iddo wrth iddo yrru.

 

Os bydd preswylwyr yn dyst i ddefnydd amhriodol ar gerbydau, fe’u hanogir i:

 

  • Roi gwybod i’r bartneriaeth os bydd problem gyda niwsans neu ddefnyddio cerbydau’n anghyfreithlon.

  • Adrodd am fanylion amserau, diwrnodau a lleoliadau digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Darparu gwybodaeth am ble y caiff beiciau modur eu storio, neu'r cerbydau a ddefnyddir i'w cludo.

  • Darparu cymaint o fanylion â phosibl. E.e. disgrifiadau o’r cerbydau dan sylw, gan gynnwys rhifau cofrestru, disgrifiadau o’r drwgweithredwr a’i ddillad.

  • Helpu wrth adnabod perchnogion a amheuir o fod yn berchen ar feiciau modur, beiciau cwad, go-peds a cheir.

  • Darparu datganiad os bydd angen.

 

 

“Gan fod hon yn broblem sy'n digwydd yn y gymuned, rydym yn galw ar breswylwyr i ddod at ei gilydd i helpu i fynd i'r afael â hi. Mae’n anniogel ac yn anghyfrifol i’r cerbydau gael eu cam-drin fel hyn, gyda chanlyniadau a all o bosibl fod yn ddinistriol. 

 

“Gyda digon o dystiolaeth a gwybodaeth, bydd y bartneriaeth yn gallu cipio cerbydau a ddefnyddir mewn modd gwrthgymdeithasol ac erlyn troseddwyr o dan y ddeddfwriaeth berthnasol." - Eddie Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Cynllunio a Rheoleiddio. 

 

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn bartneriaeth o gynrychiolwyr o’r sector statudol, y sector gwirfoddol, busnesau lleol a grwpiau cymunedol. Mae Cyngor Bro Morgannwg, Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân De Cymru i gyd yn bartneriaid allweddol.

 

Os oes gennych wybodaeth i'w adrodd, gwnewch gan gysylltu â:

 

Os bydd gennych unrhyw bryderon mewn perthynas â hyn neu os dymunwch adrodd am drosedd neu am ymddygiad gwrthgymdeithasol, cysylltwch â'r Heddlu ar 101.